Archives

2811 canlyniadau

Rhaid i gyflogwyr ddarparu cyfleusterau lles ac amgylchedd gwaith sy’n iach a diogel i bawb yn y gweithle, yn cynnwys pobl ag anableddau. Rhaid bod gennych y canlynol: cyfleusterau lles - y nifer iawn o doiledau a basnau ymolchi, dŵr yfed a rhywle i orffwys a bwyta amgylchedd gwaith iach - gweithle glân â thymheredd gweithio rhesymol, awyru da, goleuo addas a lle a seddau digonol gweithle diogel - cyfarpar sy’n cael ei gynnal a’i...
Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynorthwyo'r rhai sy'n gosod neu'n rheoli eiddo rhent yng Nghymru i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 ac yn rhoi cyngor ar rentu cartrefi diogel ac iach. Maent hefyd yn prosesu cofrestriadau landlordiaid, yn rhoi trwyddedau ac yn darparu hyfforddiant llawn gwybodaeth a pherthnasol i'r rhai sy'n ymwneud â'r farchnad rentu ar-lein neu mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Pwy sydd angen cofrestru? Rhaid i landlordiaid, y rheiny sydd â...
Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif. Dyna yw’r cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw. Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu. Gwneir y newidiadau hyn ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus...
Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithredu’n ofalus mewn perthynas â theithio rhyngwladol oherwydd y perygl o ddal y coronafeirws dramor a mewnforio ffurfiau newydd o’r feirws i’r DU. Rydym wedi cynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod eu taith yn hanfodol, gan eu hannog i ystyried cymryd gwyliau yn y DU. Wrth inni symud y tu hwnt i’r don Omicron o Covid-19, byddwn hefyd yn gweld mwy o gyfle i unigolion...
Bydd y mesurau “Stronger Nudge to pension guidance” sy’n dod i rym ar 1 Mehefin 2022 yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynlluniau pensiwn galwedigaethol gyflwyno arweiniad fel rhan reolaidd o gael mynediad at gynilion pensiwn. Mae’n rhaid iddynt hefyd gynnig trefnu apwyntiad Pension Wise ar gyfer yr unigolyn, oni bai ei fod yn dymuno optio allan o dderbyn yr arweiniad. Gwasanaeth gan lywodraeth y DU yw Pension Wise sy’n darparu arweiniad diduedd am ddim...
Os ydych chi’n gweithio i chi eich hun neu’n rhedeg busnes bach gyda llai na 10 o weithwyr, does dim rhaid i seiberddiogelwch fod yn dalcen caled i berchnogion busnesau bach. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi llunio camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun ar-lein, ac mae Cyber Aware yn hyrwyddo chwe cham ymarferol i helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes. Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes rhag...
Fe wnaeth cefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru roi hwb o tua £790 miliwn y flwyddyn i economi Cymru erbyn canol 2021, yn ôl ymchwil newydd a ddadorchuddiwyd gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw. Mae dros 25,000 o swyddi wedi'u creu diolch i gymorth gan y gwasanaeth ers 2015, gyda Busnes Cymru hefyd yn helpu busnesau i gynhyrchu cyfanswm o £469 miliwn mewn buddsoddiad dros yr un cyfnod. Mae hyn wedi arwain at...
Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn ddigwyddiad sy’n para penwythnos, gyda’r pwyslais ar dyddynwyr a phobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 21 a 22 Mai 2022 ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Gyda phwyslais ar ddathlu’r tyddyn a chefn gwlad, bydd yr ŵyl yn llawn dop o bethau diddorol i’w gweld, bwydydd a diodydd hyfryd i’w blasu, cerddoriaeth fyw, chwaraeon cefn gwlad, siopau...
Beth yw Gweithlu Bwyd Cymru? Mae Gweithlu Bwyd Cymru yn ymgyrch a gyflenwir gan Sgiliau Bwyd Cymru (Lantra) ar ran Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru). Gan arddangos pa mor foddhaus ac amrywiol y gall gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru fod, nod yr ymgyrch hon yw i roi ffocws ar rolau sydd yn helpu i fwydo’r genedl. O gyfrannu ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu bwyd i fod ar flaen...
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar gynigion i newid tâl ac amodau gweithwyr amaethyddol. Mae hyn yn cynnwys: Cyfraddau a lwfansau cyflog lleiaf. Cynnwys seibiannau o fewn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Chwefror 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.