Archives

2801 canlyniadau

Mae rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n bodoli i ostwng eithrio digidol yng Nghymru wedi cael ei hymestyn am dair blynedd arall, hyd 2025. Cychwynnodd Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles yn 2019 ac mae’n cael ei darparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru mewn partneriaeth â Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe. Mae’n cynnig cymorth i unrhyw sefydliad i’w helpu i ddatblygu prosiectau cynhwysiant digidol ac i gynyddu hyder a sgiliau digidol y bobl y...
Mae Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd ar gyfer ei 9fed digwyddiad, i greu arloesedd newydd i ddatrys heriau sy'n wynebu cydweithwyr ar draws gofal iechyd, y byd academaidd a diwydiant. Mae Hac Iechyd Cymru yn ysgogi ac yn cefnogi arloesedd i greu systemau, proses, arferion, dulliau a thechnolegau gofal iechyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynnig cyfle gwych i staff GIG Cymru, prifysgolion a diwydiant gydweithredu a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar...
Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, fod trydydd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw, ac y tro hwn bydd busnesau a sefydliadau nad ydynt wedi derbyn cymorth o'r blaen o dan y gronfa yn gymwys i wneud cais. Heddiw, gall ymgeiswyr newydd wneud cais ar wefan Busnes Cymru, lle mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar gael. Bydd angen dychwelyd ceisiadau erbyn dydd Gwener 11...
Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 7 a 13 Chwefror 2022. Mae'n ddathliad blynyddol o brentisiaethau, a'r gwerth y maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr, ar draws Cymru. Mae prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau recriwtio talent newydd, sy’n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol a galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau. Mae Wythnos Prentisiaethau, sy’n dod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd, yn amlygu'r...
Mae Rhaglen Sbarduno Geovation yn cael ei chefnogi gan yr Arolwg Ordnans a Chofrestrfa Tir EM. Mae’r Rhaglen yn cynnig cymorth dwys am 6 mis, wedi’i strwythuro yn unol ag anghenion pob busnes newydd er mwyn ceisio helpu sylfaenwyr i ddatblygu eu busnesau. Mae busnesau newydd yn derbyn cyllid grant o hyd at £20,000 a chyfwerth â dros £100,000 mewn buddion ar y Rhaglen. Mae ceisiadau ar gyfer carfan Gwanwyn 2022 ar agor nawr ar...
Y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi, £4.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd ar draws Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden. Bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn cefnogi prosiectau a fydd yn cael eu darparu drwy Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau, er mwyn i ragor o bobl gael cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o...
Hwn fydd y cam olaf ym mhroses raddol Llywodraeth Cymru o godi camau diogelu lefel rhybudd dau, a ddaeth i rym ar ddydd San Steffan i ddiogelu Cymru wrth i’r don omicron ledaenu drwy’r wlad. Bydd rhai camau diogelu pwysig yn aros mewn grym ar lefel rhybudd sero, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ddydd Gwener 28 Ionawr 2022, bydd Cymru yn...
O fis Ebrill, bydd yn rhaid i gyflogwyr ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i weithwyr, yn ogystal â gweithwyr cyflogedig, a allai fod y agored i risgiau iechyd a diogelwch yn y gwaith. Bydd diwygiad i Reoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992, yn dod i rym ar 6 Ebrill 2022. Bydd angen i sefydliadau gynnal asesiad risg i bennu a oes angen cyfarpar diogelu personol ar weithwyr i gyflawni eu tasgau gwaith. Os...
Mae newid hinsawdd nid yn unig yn ddrwg i’r blaned; mae hefyd yn niweidiol i’r economi fyd-eang hefyd. Bydd cystadleuaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Innovate UK yn cynorthwyo i integreiddio ffactorau hinsawdd ac amgylcheddol i’r gwasanaethau ariannol. Gall sefydliadau wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn sy’n cynnwys TAW. Bydd y gystadleuaeth hon yn cyllido prosiectau sy’n dod â dadansoddi risgiau amgylcheddol a hinsawdd i arferion bob dydd y gwasanaethau ariannol. Mae’r risgiau...
Mae busnesau yn cael eu hatgoffa i gymryd camau i baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Ar Werth (TAW) cyn y bydd yn orfodol i bob busnes sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW o 1 Ebrill eleni. Nod Troi Treth yn Ddigidol yw helpu busnesau i ddileu gwallau cyffredin ac arbed amser wrth roi trefn ar eu materion treth. Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW yn rhan o waith...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.