Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr lawn o ddigwyddiadau a gefnogir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026. Mae'r gronfa gwerth £1 miliwn yn galluogi grwpiau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, ar 1 Mawrth. Bydd sefydliadau yn cael grantiau sy'n amrywio o £500 ar gyfer digwyddiadau cymunedol bach i £40,000 ar gyfer gweithgareddau ledled y wlad. Bydd 92 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru, rhwng 16 Chwefror a...