Archives

151 canlyniadau

woman with hands extended - giving
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ar 8 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod. Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026 yw 'Rhoi i Ennill' sy’n ymgyrch i...
Houses of Parliament London, Big Ben and Union Jack
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Datganiad ar gyfer y Gwanwyn. I gael y wybodaeth ewch i wefan: Spring Forecast 2026: The right economic plan for Britain - GOV.UK . Gweler Ymateb i Ddatganiad Gwanwyn y Canghellor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.
Electric Vehicle charging
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd o dros 40% yn y symiau grant sydd ar gael i fusnesau a chartrefi, wrth osod mannau gwefru cerbydau trydan (EV). Bydd y diweddariadau canlynol yn cael eu cyflwyno o 1 Ebrill 2026 ymlaen: bydd pobl sy'n byw mewn cartrefi wedi’u rhentu, perchnogion fflatiau, landlordiaid preswyl, cartrefi â pharcio ar y stryd, a busnesau, i gyd yn gallu derbyn grantiau uwch o hyd at £500 y man gwefru...
solar panels and wind turbine
Bydd cymunedau Cymru yn rhannu £10 miliwn i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol a lleihau biliau ynni. Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drydedd rownd Cynllun Grant Cyfalaf Ynni Cymru ar gyfer 2026–27, sy'n agor i geisiadau ar 26 Mawrth 2026: Ynni Cymru | LLYW.CYMRU. Mae'r cynllun yn defnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar – gan helpu cymunedau i ddefnyddio ynni glân i leihau costau, creu swyddi ac adeiladu seilwaith lleol cryfach. Gall hyn gynnwys gosod paneli solar...
food waste - fruit and vegetables
Eleni, bydd ymgyrch lleihau gwastraff bwyd blynyddol mwyaf y DU yn cael ei gynnal rhwng 9 a 15 Mawrth 2026. Wythnos Atal Gwastraff Bwyd yw prif ymgyrch flynyddol Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, sy'n dod â busnesau, sefydliadau llywodraeth a phartneriaid byd-eang ynghyd i gefnogi dinasyddion i ddatblygu'r hyn sydd ei angen arnynt i leihau gwastraff bwyd yn eu cartrefi. Yn 2026, thema Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yw ‘Gwnewch i’ch Bwyd Fynd Ymhellach: er mwyn eich...
The Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £30.9 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru. Mae'r buddsoddiad yn cael ei gyfeirio at awdurdodau lleol ledled y wlad, o drefi arfordirol i gymunedau yn y cymoedd, gyda phrosiectau sy'n cwmpasu diwydiannau creadigol, hamdden, trafnidiaeth a threftadaeth. Ers ei lansio yn 2020, mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dros £484 miliwn mewn cyllid grant a benthyciadau i...
apprentices
Mae Cymru Iach ar Waith wedi comisiynu RCS i archwilio iechyd a llesiant pobl ifanc 16 i 24 oed yn y gweithle, gan roi ffocws ar iechyd meddwl. Am fod straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn effeithio fwyfwy ar weithwyr ifanc, bydd y prosiect hwn yn casglu mewnwelediadau gan weithwyr ifanc a chyflogwyr ledled Cymru i ddeall yr heriau allweddol a nodi pa gefnogaeth sy’n gweithio orau. Bydd y canfyddiadau’n helpu i ddatblygu canllawiau ac...
Deputy First Minister with responsibility for Climate Change and Rural Affairs, Huw Irranca-Davies
Gall ffermwyr Cymru nawr wneud cais am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) am y tro cyntaf, wrth i'r Ffurflen Cais Sengl (SAF) agor heddiw, 2 Mawrth 2026. Mae'r ffenestr SAF yn rhedeg rhwng 2 Mawrth a 15 Mai 2026. Trwyddi, gall ffermwyr roi gwybod i Lywodraeth Cymru a ydynt yn hawlio'r SFS neu'r Cynllun Taliad Sylfaenol. Anogir ffermwyr sy'n ystyried ymuno â'r SFS yn gryf i ddechrau eu cais yn gynnar. Bydd dechrau'n gynnar yn...
man holding carrots
Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod yw'r dathliad blynyddol o dalent, arloesedd a rhagoriaeth yn y diwydiant bwyd a diod. Pwy all gystadlu? Cynhyrchwyr bwyd a diod Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, darparwyr lletygarwch Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, y sector iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg Mae ceisiadau yn agor ar 2 Mawrth 2026 ac yn cau ar 4 Mai 2026. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen...
A55 Colwyn Bay
Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i leisio eu barn ar anghenion gweithlu’r dyfodol yn y rhanbarth, fel rhan o’r gwaith i ddatblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd ar gyfer 2026 i 2028. Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol - Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio arolwg byr ar-lein i gyflogwyr er mwyn casglu mewnwelediad uniongyrchol i’r heriau sgiliau a recriwtio sy’n wynebu busnesau heddiw, a pha gefnogaeth fydd ei hangen dros y blynyddoedd nesaf...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.