Archives

1451 canlyniadau

Green building
Ydy’ch egin fusnes yn helpu i gyflymu llwybr Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at sero net? Ydych chi eisiau cynyddu ymwybyddiaeth o’ch egin fusnes ledled y Deyrnas Unedig a’r Dwyrain Canol? Os felly, dyma’r gystadleuaeth i chi. Mae Uned Cyfalaf Menter yr Adran Busnes a Masnach yn lansio ei thrydedd gystadleuaeth dwf genedlaethol, sef ‘Adeiladwyr Gwyrdd Yfory’. Dyluniwyd y gystadleuaeth i amlygu’r cwmnïau cam cynnar gorau a fydd yn cefnogi uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig...
girl holding a bunch of daffodils
Mae’r ymgyrch ar draws y diwydiant #CaruCymruCaruBlas -#LoveWalesLoveTaste yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth 2024! Hwn fydd yr ymgyrch mwyaf erioed i annog siopwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr i ddathlu bwyd a diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol. Fel yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd pecyn cymorth digidol newydd ar gael i chi ei ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch. Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru, bydd eich cwsmeriaid...
Seagulls and fishing nets on the harbour in Conwy
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru. Daw'r gefnogaeth gan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru, gyda'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cyllid hwn yn agor heddiw. Nod y cynllun yw sicrhau twf amgylcheddol ac economaidd cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu yn y dyfodol. Gall y rheini sy'n gweithio yn...
Social Entrepreneur Network
Ydych chi’n entrepreneur brwdfrydig sy’n dymuno rhoi hwb i’ch menter gymdeithasol? Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio’r byd mentrau cymdeithasol yng Nghymru a chysylltu â ffigurau allweddol? Ymunwch â digwyddiad rhwydweithio yn CoLab Workspaces, Adeiladau Cambrian ym Mae Caerdydd ar 12 Mawrth 2024. Mae’n gyfle gwych i ddysgu a chael cymorth ar gyfer eich egin brosiect. P’un a ydych chi’n dechrau arni neu’n entrepreneur cymdeithasol sefydledig, ymunwch â chymuned sydd wedi ymrwymo i fynd i’r...
AI UK yw arddangosfa genedlaethol y Deyrnas Unedig o waith ymchwil ac arloesi ym maes Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial (AI), a gynhelir gan Sefydliad Alan Turing. Cynhelir y digwyddiad o 19 i 20 Mawrth 2024 yn Llundain a bydd yn archwilio’n fanwl sut y gellir defnyddio gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i ddatrys heriau byd go iawn. Strwythurwyd y rhaglen amrywiol fesul thema o amgylch yr arloesiadau diweddaraf ar draws yr ecosystem deallusrwydd artiffisial...
Merthyr Tydfil Labour Club
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Yn dilyn colli cyllid yr UE, cyhoeddais ym mis Mai 2022 ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £20.9 miliwn y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2025, i barhau â gwasanaeth cymorth Busnes Cymru. Yn dilyn diweddariad llawn o'r gwasanaeth, rwy'n falch o gyhoeddi fod y gwasanaeth yn gwbl weithredol. Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn cyflawni ein huchelgeisiau a amlinellir yn y Genhadaeth Economaidd ddiweddar ac ar ein hymrwymiadau yn y Rhaglen...
Person putting fuel in their car
Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio ar gynllun newydd Pumpwatch, a fydd yn ei gwneud yn haws i yrwyr chwilio am y tanwydd rhataf. Gofynnir i ddefnyddwyr, manwerthwyr a sefydliadau eraill am eu barn ar gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cynllun newydd Pumpwatch, a fyddai’n golygu bod gofyniad cyfreithiol i’r holl orsafoedd tanwydd ledled y wlad rannu gwybodaeth amser real am brisiau. Bydd sefydliad yn cael ei benodi gan Lywodraeth y DU. O dan...
Person comforting an older person
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi addo bod "gan Siarter Budd-daliadau Cymru y potensial i fod o fudd i filoedd o bobl sy'n byw mewn tlodi". Nod Siarter Budd-daliadau Cymru yw ei gwneud hi'n haws i bobl hawlio eu holl gymorth ariannol drwy greu system fwy cydlynol – fel bod dim ond rhaid i berson adrodd ei stori unwaith i hawlio'r hyn y mae ganddo'r hawl i'w gael. Mae'r Siarter...
International Women's Day 2024 Event
Bydd Cardiff Devils a Weboss yn cynnal eu dathliad agoriadol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 yn Vindico Arena ar 8 Mawrth 2024, o 12pm tan 2pm. Nod y digwyddiad yw anrhydeddu ac arddangos cyflawniadau menywod mewn busnes, gan bwysleisio cynwysoldeb, gwydnwch a chreadigrwydd. Bydd siaradwyr yn rhannu eu mewnwelediadau o fenywod ym meysydd busnes a chwaraeon. Mae’r digwyddiad ymgynnull hwn yn gyfle unigryw i rwydweithio, rhannu profiadau, a meithrin cymorth ymhlith unigolion o’r...
Cows in a field in Barafundle Bay, Pembrokeshire
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Mae ffermio – ac amaethyddiaeth yn ehangach – yn chwarae rhan bwysig ym mywyd Cymru. Mae'n rhan o'n heconomi, ein hunaniaeth a'n diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru. Rydym am gadw ffermwyr Cymru yn ffermio, wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur gyda’n gilydd. Mae'r sector...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.