Mae menter newydd i ddarparu nwyddau hanfodol i aelwydydd sydd mewn cyni wedi cael ei lansio yn Abertawe. Cafodd Cwtsh Mawr, 'banc pob dim' cyntaf Cymru, ei agor yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae banciau pob dim yn seiliedig ar y model banciau bwyd, ond maent yn darparu ystod ehangach o nwyddau nad ydynt yn ddarfodus, gan alluogi busnesau i ailddosbarthu eitemau...