Archives

1081 canlyniadau

Diwrnod Shwmae
Cynheli Diwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref bob blwyddyn ac yn hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nôd y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio...
Engineer stood in front of wind turbines and a Welsh flag
Bydd Ynni Dyfodol Cymru yn dychwelyd i’r ICC yng Nghasnewydd ar 12 i 13 Tachwedd 2024. Hwn yw’r lle i ddiogelu eich busnes at y dyfodol a helpu i lunio’r cyfle ynni adnewyddadwy i Gymru. Ymunwch ag arweinwyr diwydiant, gweithgynhyrchwyr, arloeswyr a llunwyr polisi yn y digwyddiad pwysicaf yng nghalendr ynni adnewyddadwy Cymru. Mae ein rhaglen ar gyfer 2024 yn dangos y cyfleoedd economaidd a’r partneriaethau strategol sydd eu hangen i gyflymu’r broses o drosglwyddo...
Recycling
Mae’r Wythnos Ailgylchu yn ddathliad o ailgylchu ar draws y Deyrnas Unedig. Thema’r Wythnos Ailgylchu eleni yw 'Achub Fi' (Rescue Me). Cynhelir yr ymgyrch rhwng 14 a 20 Hydref 2024, gan ganolbwyntio ar achub eitemau y gellir eu hailgylchu o'r bin sbwriel. Dyma’r wythnos o’r flwyddyn lle mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a’r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: ysgogi’r cyhoedd i ailgylchu mwy o’r pethau cywir...
Wheelchair user working in an office talking to a colleague
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adnoddau newydd i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol a’r camau ymarferol y gallant eu cymryd i gefnogi gweithwyr anabl yn y ffordd orau gyda gweithio hybrid. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gymryd camau i ddileu, lleihau neu atal rhwystrau y mae gweithiwr anabl yn eu hwynebu. Mae gwneud yr addasiadau hyn...
Houses in New Quay Wales
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn cael lesio’ch eiddo i’ch awdurdod lleol a chael gwarant o incwm rhent? Mae Cynllun Lesio Cymru, cynllun dan ofal Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i landlordiaid a pherchenogion tai gwag lesio’u heiddo i’r awdurdod lleol am 5 i 20 mlynedd. Mae’r cynllun yn gwarantu incwm rhent bob mis ichi a hefyd bydd yr awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth rheoli llawn heb ichi orfod talu comisiwn. Mae hynny’n golygu na...
The Harlech Grocer
Cefnogaeth am ddim i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg a hybu'r Gymraeg yn y gweithle. Mae Comisiynydd y Gymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn eich gwahodd i ddigwyddiad sy'n esbonio'r cymorth sydd ar gael i'ch busnes i ddatblygu eich defnydd o'r Gymraeg. Mae'r digwyddiad ar gyfer uwch-reolwyr. 11 Tachwedd 2024, 2pm - 3:30pm Ty Principality, Heol Ty'r Brodyr, Caerdydd CFl0 3FA RSVP: erbyn 10 Hydref 2024 hybu@cyg-wlc.cymru Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd...
Helping a colleague with work, using a computer
Cynhelir yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyslecsi rhwng 7 Hydref ac 13 Hydref 2024, ac mae’n dathlu amrywiaeth y gymuned ddyslecsig a’r amrediad cyfoethog o brofiadau bywyd o ddyslecsia. Eleni mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain (BDA) yn gofyn i chi rannu eich straeon eich hun am ddyslecsia yn ystod #DAW24 i godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth profiadau byw yn y gymuned. Gall rhannu eich stori helpu i ddangos pwysigrwydd cefnogaeth ac ymyrraeth gynnar a helpu i ysbrydoli eraill...
Cafe worker looking at a customer
Bydd miliynau o weithwyr yn elwa o gyfreithiau newydd a fydd yn sicrhau eu bod yn cadw 100% o'r arian y maent wedi'i ennill yn sgil cael tip. Daeth y Ddeddf Cyflogaeth (Dyrannu Tipiau) a'r Cod Ymarfer statudol ar ddosbarthu tipiau yn deg ac yn dryloyw i rym ar 1 Hydref 2024, wedi iddi gael ei chyflwyno drwy Fil Aelod Preifat y llynedd. Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr drosglwyddo'r...
Welsh Flag and sunrise
Mae Banc Busnes Prydain yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddarganfod mwy am y Gronfa Fuddsoddi newydd gwerth £130 miliwn i Gymru . Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130 miliwn yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol, gyda benthyciadau llai rhwng £25,000 a £100,000, cyllid dyled rhwng £100,000 a £2 filiwn, a buddsoddiad ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’r achlysuron hyn ar gyfer busnesau llai, cynghorwyr busnes, cyfrifwyr, bancwyr, cyfreithwyr, yr ecosystem cymorth...
Lightbulb and fruit
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cymorth technegol, gweithredol a masnachol i fusnesau bwyd i'w galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol. Drwy gydol mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2024 maent yn cynnal cyfres o weithdai wedi’u hariannu’n llawn i fusnesau bwyd a diod o Gymru ar bynciau megis: Creu Briff Proses Datblygu Cynnyrch Cam wrth Gam ( stage gate ) Datblygu Cynnyrch Diogel Gofynion Labelu Cyfreithiol Ymwybyddiaeth Synhwyraidd Sylfaenol Am fwy...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.