Archives

1071 canlyniadau

person reading a book
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd. Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer 2025. Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r meini prawf cymhwysedd a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys...
Community grant image
Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, wedi annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian oddi wrth Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu'r Gymraeg ffynnu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant bach i'w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned. Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â...
Hands holding a red love heart
Bydd Diwrnod Gwisgo Coch blynyddol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 18 Hydref 2024. Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy'n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu i hwyluso darparu addysg wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion. Mae pob ceiniog a godir yn ystod Diwrnod Gwisgo Coch yn galluogi'r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion...
business owners looking at invoices
Gyda chefnogaeth yr Adran Busnes a Masnach, bydd y Comisiynydd Busnesau Bach yn lansio Cod Talu Teg newydd yn ddiweddarach yn 2024. Bydd y Cod newydd yn gwobrwyo busnesau am fabwysiadu arferion talu teg i gyflenwyr o bob maint a chyflenwyr bach yn benodol. Bydd y Cod newydd yn cynnwys set o egwyddorion talu teg y mae'n ofynnol i gwmnïau lofnodi i gadarnhau y byddant yn glynu atynt, yn ogystal â thri chategori gwobrwyo: Aur...
people applauding
Bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn cwrdd â busnesau a buddsoddwyr rhyngwladol yn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yn Llundain heddiw. Yr Uwchgynhadledd yw prif ddigwyddiad buddsoddi Llywodraeth y DU, gan ddod â 300 o arweinwyr diwydiant ynghyd i drafod buddsoddi ac arddangos y cryfderau sy'n bodoli ar draws gwledydd y DU. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr i Gymru yn yr Uwchgynhadledd. Mae 1,480 o gwmnïau tramor yng Nghymru...
Older person and younger person looking at a digital device
Wythnos Mynd Ar-lein yw ymgyrch cynhwysiant digidol blynyddol Good Things. Fe’i cynhaliwyd bob blwyddyn ers 2007 ac mae nôl ar gyfer 2024 rhwng 14 Hydref a 20 Hydref. Nod yr wythnos yw helpu degau o filoedd o bobl i ddarganfod manteision bod ar-lein a meithrin eu hyder wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd trwy ddigwyddiadau cymunedol hwyliog sy’n rhad ac am ddim. Os ydych chi'n sefydliad ac yn cefnogi'ch cymuned leol, ystyriwch gynnal digwyddiad! Y llynedd, cynhaliwyd dros...
Map of the world with different food
Mae Diwrnod Bwyd y Byd yn digwydd ar 16 Hydref 2024. Mae angen i lywodraethau, y sector preifat, ffermwyr, y byd academaidd, cymdeithas sifil ac unigolion weithio gyda'i gilydd i sicrhau mwy o amrywiaeth o fwydydd maethlon, fforddiadwy, hygyrch, diogel a chynaliadwy er mwyn sicrhau diogelwch bwyd a deiet iach i bawb. Mae'r sector preifat yn ei holl ffurfiau yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o siapio ein hamgylchedd bwyd er mwyn iddo gynnig...
girls playing sport
Gwahoddir sefydliadau i wneud cais am gymorth gan Gronfa Arloesi Actif Gogledd Cymru o hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Cymru i gynyddu’r nifer o ferched ifanc a genethod sy’n actif bob dydd. Mae merched ifanc a genethod yn wynebu llawer o heriau o ran bod yn actif ac mae deall y rhwystrau hyn yn hanfodol bwysig i ddechrau cynyddu lefelau cyfranogiad. Mae Actif Gogledd Cymru yn chwilio am geisiadau fydd yn: Gwella...
Hair dresser and client in salon
Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu'r Bil Hawliau Cyflogaeth, o 10 Hydref 2024, i helpu i sicrhau diogelwch a thwf economaidd i fusnesau, gweithwyr a chymunedau ledled y DU. Bydd y bil yn cyflwyno 28 o ddiwygiadau cyflogaeth unigol, o roi terfyn ar gontractau dim oriau ac arferion diswyddo ac ailgyflogi sy’n camfanteisio ar weithwyr i sefydlu hawliau o’r diwrnod cyntaf i absenoldeb tadolaeth, rhieni a phrofedigaeth ar gyfer miliynau o weithwyr. Bydd tâl salwch...
community support centre
Mae Canolfan Gymorth Gymunedol newydd wedi agor yng Nghanolfan Siopa Aberafan i ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor ar ailhyfforddi i unigolion a busnesau y mae penderfyniad Tata Steel UK i ddefnyddio dulliau mwy gwyrdd o wneud dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt. Bydd y cyfleuster, a agorwyd gan undeb Community, gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru , yn cefnogi ac yn darparu cyngor pwrpasol i Tata a gweithwyr y gadwyn gyflenwi, eu teuluoedd a busnesau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.