news and blogs Archives

921 canlyniadau

Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i ddathlu cynhwysiant mewn arloesedd. Bydd 50 o wobrau’n cael eu cynnig i fentrau micro, bach neu ganolig ledled y DU i gefnogi amrywiaeth mewn busnesau. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 yr un ar gyfer datblygu gwaith sydd eisoes yn bodoli, neu ddatblygu waith newydd, ar arloesiadau cynhwysol. Mae'r Gwobrau Arloesedd Cynhwysol ar agor ar gyfer...
Mae ProtectUK, a lansiwyd yn 2022, yn ganolfan ganolog newydd ar gyfer gwrthderfysgaeth a chyngor diogelwch. P'un a ydych chi'n berchennog busnes, yn gweithio ym maes diogelwch, neu'n aelod o'r cyhoedd, cofrestrwch gyda ProtectUK i ddod yn rhan o'r gymuned a derbyn y newyddion a'r cyrsiau diweddaraf ar-lein a fydd yn eich galluogi i gael eich diogelu'n well. Drwy gofrestru, gallwch: Gyrchu’r canllawiau diogelwch diweddaraf a chynnal eich asesiadau risg eich hun. Meddu ar y...
Yng Nghyllideb Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 27 Hydref 2021 a 30 Ionawr 2022 yn gwahodd rhanddeiliaid i gyflwyno eu safbwyntiau ar y diwygiadau arfaethedig i'r system ardollau alcohol. Nod yr Adolygiad o Ardollau Alcohol yw gwella'r system bresennol - drwy ei gwneud yn symlach, yn fwy rhesymegol yn economaidd ac yn llai beichus yn weinyddol i fusnesau a CThEF. Ar 1 Awst 2023, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno...
Cynhelir Diwrnod Gwisgo Coch blynyddol Show Racism the Red Card ar 21 Hydref 2022. Mae’r Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy'n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu hwyluso cyflwyno addysg gwrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion. Mae pob ceiniog sy'n cael ei chodi yn ystod y Diwrnod Gwisgo Coch yn galluogi'r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ledled y DU i...
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog cwsmeriaid Hunanasesu i fod yn effro i dwyllwyr a sgamiau sy'n gofyn am eu gwybodaeth bersonol neu fanylion banc. Dylai cwsmeriaid Hunanasesu, sy'n dechrau meddwl am eu ffurflenni treth blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, warchod rhag cael eu targedu gan dwyllwyr, rhybuddia CThEF. Yn y 12 mis hyd at Awst 2022, ymatebodd CThEF i fwy na 180,000 o atgyfeiriadau o gyswllt amheus gan y...
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2. Mae Arfor 2 yn rhaglen newydd a fydd yn cael ei darparu gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol a fydd yn helpu i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg. Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a chan adeiladu ar brofiad a'r gwerthusiad o raglen gynharach...
Gan ganolbwyntio ar adeiladu diwydiant ffilm a theledu mwy cynhwysol, mae Disney a The National Film &Television School yn chwilio am chwe thîm o awduron a chyfarwyddwyr profiadol gyda safbwyntiau gwahanol ac amrywiol, gydag o leiaf un person yn y tîm o gefndir sy’n cael eu tangynrychioli, i wneud ffilm fer fel rhan o raglen Disney Imagine UK Shorts Incubator. Mae Disney Imagine UK yn gyfle i wneud ffilm fer gyda chefnogaeth greadigol gan swyddogion...
O 1 Tachwedd 2022, ni fyddwch yn gallu defnyddio’ch cyfrif ar-lein TAW presennol i anfon Ffurflenni TAW. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (MTD) (yn Saesneg) a defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw’ch cofnodion TAW a chyflwyno’ch Ffurflenni TAW. Cyn i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, bydd angen naill ai: pecyn meddalwedd sy’n cydweddu sy’n eich galluogi i gadw cofnodion digidol (yn...
Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 17 a 23 Hydref 2022. Thema eleni yw 'Let's Get Real' a bydd yn herio canfyddiadau a mythau ynghylch ailgylchu, a thargedu halogiad i wella ymddygiadau ailgylchu. Dyma’r un wythnos yn y flwyddyn lle mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a'r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: ysgogi'r cyhoedd i ailgylchu mwy o'r pethau cywir, yn amlach. Mae'n beth syml y gall pawb ei...
Gwybodaeth i'ch helpu i amddiffyn, rheoli a gorfodi eich hawliau eiddo deallusol (IP) yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Os ydych chi'n ystyried ehangu eich busnes i'r UE/AEE, mae'n hanfodol gwybod sut i reoli a gorfodi eich IP fel hawliau eiddo preifat. Mae hawliau IP yn diriogaethol, ac efallai y bydd angen i chi gofrestru eich hawliau trwy: broses ranbarthol neu ryngwladol sy'n eich galluogi i ffeilio mewn sawl gwlad ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.