news and blogs Archives

641 canlyniadau

Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell, roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn nodi cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth yn gynhwysfawr er mwyn gwella diogelwch yr holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yng Nghymru (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu ragor o anheddau domestig), o’r cam dylunio...
Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i fusnesau, yn gwella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf yn ogystal â helpu i ddatblygu busnesau ffermio. Trwy gynnig cyngor a chymorth, mae...
Mae Cyllid a Thollau EF yn atgoffa busnesau sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW i ffeilio eu ffurflenni a thalu ar amser, cyn i gosbau newydd gael eu cymhwyso. Mae disgwyl i'r ffurflenni misol cyntaf a'r taliadau sy'n cael eu heffeithio gan y cosbau gael eu cyhoeddi erbyn 7 Mawrth 2023. Cyflwynwyd y cosbau talu hwyr a'r cosbau cyflwyno hwyr ar sail pwyntiau o 1 Ionawr 2023, gan ddisodli'r gordal diofyn TAW, ac maent yn...
Cynhelir cynadleddau Archwilio Allforio Cymru ddydd Iau 9 Mawrth 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dydd Iau 16 Mawrth 2023 yng Ngwesty’r Village St David's, Glannau Dyfrdwy. Byddant yn cynnwys sesiynau un-i-un gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor, seminarau ar allforio, arddangosfeydd, a pharth allforio penodedig gan Lywodraeth Cymru, lle gall busnesau archwilio ein hoffer digidol a chwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Ryngwladol. Os yw eich busnes yn allforio ar hyn o bryd neu'n ystyried mentro i...
Mae Amazon, WRAP ac EIT Climate-KIC, sef prif ganolfan arloesi hinsawdd Ewrop wedi ymuno i gefnogi entrepreneuriaid gyda chynhyrchion defnyddwyr cynaliadwy a thechnolegau ailgylchu. Mae'r Cyflymydd Cynaliadwyedd yn agored i fusnesau newydd sy'n creu cynhyrchion defnyddwyr mwy cynaliadwy ac, am y tro cyntaf, y rheiny sy'n datblygu technoleg a all helpu'r diwydiant i ailgylchu cynhyrchion yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae'r rhaglen nawr yn derbyn ceisiadau gan fusnesau newydd cyfnod cynnar yn Ewrop. Y dyddiad...
Darganfyddwch fwy am ddulliau y mae twyllwyr yn eu defnyddio i geisio cael eich gwybodaeth bersonol drwy wylio enghreifftiau o sgamiau a amlygwyd gan CThEF. Weithiau, bydd CThEF yn cysylltu â chwsmeriaid dros y ffôn, drwy e-bost, llythyr ac weithiau'n defnyddio cwmnïau ymchwil i gysylltu â chwsmeriaid. Os nad ydych yn siŵr bod y cyswllt yn ddilys, yna edrychwch ar y canllaw wedi'i ddiweddaru ar enghreifftiau o negeseuon e-bost gwe-rwydo, galwadau ffôn a negeseuon testun...
Mae cynllun newydd yn anelu at helpu mwy na 10,500 o bobl, sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau neu alcohol neu sydd â salwch meddwl, i gael addysg, hyfforddiant neu waith. Cafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen, sef yr unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru, yn helpu cyfranogwyr i feithrin eu hyder drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a’u cefnogi i gael mynediad at hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith neu waith gwirfoddoli. Caiff cyfranogwyr eu...
Bydd Skills Cymru, y digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau i Gymru, yn cael ei gynnal yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Hydref eleni. Mae’r digwyddiad hynod ryngweithiol hwn yn croesawu hyd at 10,000 o ymwelwyr, gan ddarparu amrywiaeth eang iawn o gyfleoedd iddyn nhw yn ogystal â’r llwybrau i’w dilyn i’w cyflawni. Bob blwyddyn, bydd dros 100 o gwmnïau a sefydliadau’n mwynhau cwrdd â’r genhedlaeth nesaf o arweinyddion a gweithwyr yng Nghymru a dylanwadu arnyn nhw...
Mae pecyn cymorth i fusnesau arfordirol yng Nghymru wedi cael ei gynllunio i helpu busnesau i farchnata eu cynnyrch a’u gwasanaethau drwy ddefnyddio atyniad y Llwybr a sut y gall fod o fudd iddyn nhw. Mae’r adnodd ar-lein hawdd ei ddefnyddio, rhad ac am ddim hwn yn rhoi mynediad i fusnesau at ystod eang o ddeunyddiau a gwybodaeth mewn un man - yn cynnwys logos, eitemau newyddion, posteri a fideos i’w defnyddio wrth farchnata a...
O 2025, bydd llinellau ffôn ISDN (rhwydwaith digidol gwasanaethau integredig) a PSTN (rhwydwaith cyfnewidfeydd ffôn cyhoeddus) yn cael eu diffodd yn barhaol ac mae hyn yn berthnasol i gwsmeriaid busnes a chartref. Mae angen i chi ddechrau cynllunio eich symudiad heddiw oherwydd gallai fod llawer i'w wneud. Cofiwch, nid yw'n ymwneud â'ch gwasanaethau ffôn yn unig, mae angen i chi adolygu popeth rydych chi'n ei gysylltu â'ch llinellau ffôn, fel larymau, peiriannau EPOS, systemau mynediad...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.