news and blogs Archives

551 canlyniadau

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi lansio dau offeryn diogelwch newydd wedi'u hanelu at fusnesau bach, microfusnesau, sefydliadau ac unig fasnachwyr sydd heb yr adnoddau i fynd i'r afael â materion seiber. Dadorchuddiodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth – y gwasanaethau i gyd-fynd â cham diweddaraf ei hymgyrch Cyber Aware. Gellir llenwi’r Cyber Action Plan ar-lein mewn llai na 5 munud ac mae'n arwain at gyngor wedi'i deilwra i...
Lluniwyd y rhaglen i ddarparu cymorth busnes ac addysg ymarferol o safon uchel i arweinwyr mentrau cymdeithasol a busnesau bach gyda thwf uchel ar draws y DU. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn elwa o’r canlynol: gweithdai arbenigol cyngor busnes un-i-un hyfforddiant busnes mynediad at arbenigwyr proffesiynol cyfleoedd rhwydweithio a rhwydwaith o raddedigion Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw gwanwyn 2023, bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal haf 2023 a bydd...
Trwy god ymarfer statudol arfaethedig, mae Llywodraeth y DU yn amddiffyn gweithwyr ac yn cosbi cyflogwyr sy’n defnyddio tactegau diswyddo dadleuol. Bydd y cod, a fydd yn destun ymgynghoriad yn y lle cyntaf, yn ei gwneud hi’n gwbl glir i gyflogwyr na chânt ddefnyddio bygwth diswyddo i roi pwysau ar weithwyr i dderbyn telerau newydd, ac y dylent gael trafodaethau gonest a meddwl agored gyda’u gweithwyr a’u cynrychiolwyr. Mae ‘Fire and rehire’ yn cyfeirio at...
Y newyddion diweddaraf am gwasanaethau a’n canllawiau Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth. Newidiadau pwysig yr system rheoli trethi a gweminarau hyfforddi cyffrous ym mis Ebrill ar: ryddhad anheddau lluosog trafodiadau cyfraddau uwch adeiladau adfeiliedig Mae'r gweminarau’n canolbwyntio ar rannau'r dreth y mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am fwy o hyfforddiant arnynt. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a hynny ar sail cyntaf i'r felin. I gael mwy o wybodaeth...
Mae ARFOR, Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin, nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus. Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn dilyn llwyddiant rhan gyntaf y Rhaglen mae ARFOR nawr yn cyhoeddi cyfleoedd am gefnogaeth drwy ffrwd waith Cymunedau...
Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i brosiectau yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud o leiaf un o’r canlynol: Lleihau anghydraddoldeb Creu cynaliadwyedd tymor hir Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu Er enghraifft, gellid defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol: Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan glybiau fylchau mewn sgiliau neu brofiad Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon Datblygu ffyrdd newydd neu wahanol...
Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ar 23 Mawrth 2023 i gynyddu cyfradd sylfaenol Banc Lloegr i 4.25% o 4%. Mae cyfraddau llog CThEF yn gysylltiedig â chyfradd sylfaen Banc Lloegr. O ganlyniad i'r newid yn y gyfradd sylfaenol, bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer talu'n hwyr ac ad-dalu yn cynyddu. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar: 3 Ebrill 2023 am randaliadau chwarterol 13 Ebrill 2023 am randaliadau heb fod yn rhai...
Mae Energy Systems Catapult wedi datblygu Pecyn Cymorth Sero Net sy'n seiliedig ar Leoedd ar gyfer awdurdodau lleol, rhwydweithiau ynni, busnesau, cymunedau ac arloeswyr i gyflymu atebion di-garbon. Mae pob lle lleol yn unigryw a bydd y strategaeth ddatgarboneiddio gywir yn dibynnu ar ddaearyddiaeth, mathau o adeiladau, seilwaith ynni, galw am ynni, adnoddau, cynlluniau twf trefol ac uchelgeisiau carbon isel y gymuned leol. Mae'r pecyn cymorth yn helpu cwmnïau a chymunedau glân i ffynnu, gan...
Mae Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol gorau a mwyaf blaenllaw, a gynlluniwyd ar gyfer masnacheiddio cyflym, llwyddiannus. Mae angen i syniadau fod yn wirioneddol newydd a chyfoes, ac nid aflonyddu yn eu sector nhw’n unig. Rhaid i'ch cynnig fod yn canolbwyntio ar fusnes, gyda chynlluniau realistig a chyflwynadwy, ac ag adnoddau digonol i gyflawni elw ar fuddsoddiad, twf a chyfran...
Mae’r system newydd yn cymryd lle’r broses o wneud cynnig i newid prisiad eich eiddo annomestig. Mae rheoliadau wedi’u pasio yn y Senedd sy’n galluogi Cymru i symud ymlaen i ddefnyddio’r broses Gwirio, Herio ac Apelio. O 01 Ebrill 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i dalwyr ardrethi yng Nghymru ddilyn y broses Gwirio, Herio, Apelio ac i ddefnyddio gwasanaeth digidol Gwirio a Herio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae talwyr ardrethi yn gallu creu Cyfrif...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.