news and blogs Archives
2481 canlyniadau
Yn sgil yr argyfwng COVID-19 bydd llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i ohirio darpariaeth wyneb yn wyneb a/neu hyfforddiant oddi ar y safle. Bydd hyn yn golygu cynnal rhaglenni hyfforddiant y gellir eu darparu ar-lein am y tro. Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yma i gynorthwyo’ch busnes i gynnal hyfforddiant ar-lein. Mae’r Rhaglen yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru i roi cyfraniad ariannol tuag at uwchsgilio gweithwyr busnesau yng Nghymru, Mae hyn yn...
Mae gan gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a phobl sy’n rheoli eu heiddo eu hunain, fel landlordiaid, ddyletswydd i nodi a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â chlefyd y lleng filwyr. Os yw’ch adeilad wedi cau neu os oes llai yn ei ddefnyddio yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19), gall eich system ddŵr ddioddef yn sgil aros yn llonydd am nad yw’n cael ei defnyddio cymaint, gan gynyddu’r perygl o glefyd y lleng filwyr. Ewch i wefan yr...
Mae Pick For Britain yn helpu i ddod â gweithwyr a chyflogwyr at ei gilydd a sicrhau y gall y DU barhau i ddarparu’r ffrwythau a’r llysiau gorau o Brydain i bawb eu mwynhau. Mae gan wefan Pick for Britain wybodaeth ar gyfer tyfwyr, recriwtwyr ac asiantaethau sydd â chyfleoedd swyddi ledled y wlad. O gasglwyr a gweithwyr pecynnu, i gynnal a chadw peiriannau a gyrwyr tractors a wagenni fforch godi, mae dewis eang o...
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau i helpu busnesau sy’n symud o ddarpariaeth ffisegol i ddarpariaeth ddigidol fel rhan o’r ymateb parhaus i Covid-19. Mae’r canllawiau wedi’u llunio’n benodol i gefnogi busnesau sy’n dibynnu’n fwy nag erioed ar wasanaethau TG i gynnal eu busnes. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau ar weithio o gartref, fideo-gynadledda ac adnabod sgamiau e-bost sy’n gysylltiedig â Covid-19. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Ymunwch â gweminar am ddim, a gynhelir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ddysgu mwy am sut i wneud eich gweithle yn ddiogel o ran COVID-19. Bydd y gweminarau yn cynnwys gwahanol fathau o leoliadau gweithle sy’n cael agor. Mae sawl busnes yn gweithredu mwy nag un math o weithle, fel swyddfa, ffatri a fflyd o gerbydau. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio mwy nag un o’r canllawiau/ gweminarau wrth i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd. Gobeithio y bydd y gwiriwr cymhwystra ar gyfer ceisiadau newydd ar agor erbyn canol mis Mehefin 2020, gan roi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio agor y gronfa ar gyfer ceisiadau llawn yn hwyrach yn y mis. Bydd hyn yn agor y ffordd i’r £100 miliwn sydd ar ôl o’r £300 miliwn sydd eisoes wedi’i gymeradwyo a’i ddyrannu...
Mae Llywodraeth y DU am glywed safbwyntiau sefydliadau ar y rolau sy’n cael eu llenwi gan weithwyr mudol, eu cyflogau a goblygiadau newidiadau posibl. Ym mis Mawrth 2020, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i lunio rhestr galwedigaethau â phrinder yn y DU, a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar alwedigaethau Lefel 3-5 (sgiliau canolig) RQF. Byddwn yn adrodd ar y rhestr ym mis Medi 2020. Mae’r argyfwng COVID-19 wedi rhoi busnesau mewn...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol, a allai fod yn ddefnyddiol i’ch busnes: adroddiadau RIDDOR mewn perthynas â COVID-19 gweithio o gartref cyfleusterau llesiant gyrwyr rheoleiddio cemegion yn ystod yr argyfwng gweithgynhyrchu a chyflenwi hylifau diheintio dwylo Am yr holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf, ewch i wefan HSE. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio...
Bydd gwasanaeth ar-lein newydd, ‘Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws’ yn cael ei lansio ar 26 Mai 2020 ar gyfer cyflogwyr bach a chanolig i adennill taliadau Tâl Salwch Statudol y maen nhw wedi’u gwneud i weithwyr presennol neu flaenorol. Gall cyflogwyr hawlio am gyfnodau salwch a dechreuodd ar neu ar ôl: 13 Mawrth 2020 – os oedd gan weithwyr goronafeirws neu’r symptomau neu’n hunanynysu am fod gan rywun sy’n byw gyda nhw’r symptomau 16...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar sut dylai cyflogwyr drafod data os ydyn nhw’n penderfynu profi gweithwyr am Covid-19. Mae’r canllawiau’n cynnwys: Ar ba sail gyfreithiol y galla i brofi gweithwyr? Sut galla i ddangos bod ein dull o brofi yn cydymffurfio â’r gyfraith diogelu data? Oes hawl gen i gadw rhestrau o weithwyr sydd â symptomau neu sydd wedi’u profi’n bositif? Er yn debyg, mae amrywiadau yn null Llywodraeth y DU a’r...
Pagination
- Previous page
- Page 248
- Next page