news and blogs Archives
2261 canlyniadau
Mae Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd 2020. Fel rhan o’r gweithredu i gefnogi busnesau mewn cyfnod o galedi parhaus o ganlyniad i COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 30 Medi, wedi cael ei estyn tan 31 Rhagfyr 2020. Dylid parhau i dalu rhent pryd bynnag y bo...
Gall gweminarau CThEM eich helpu i ddeall pa dreuliau busnes y gallwch eu hawlio. Ymunwch â'r gweminarau byw i gael y wybodaeth ddiweddaraf a'r cyfle i ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin. Treuliau busnes i'r hunangyflogedig Cewch wybod beth yw treuliau busnes, beth sy'n cael ei ganiatáu a beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu, a sut y gall defnyddio treuliau symlach wneud bywyd yn haws. Dewis dyddiad ac amser Treuliau car...
Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Mawrth 22 Medi 2020 i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn ardaloedd y pedwar awdurdod lleol hyn. Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd: ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg dim ond yn...
Bydd Festival UK* 2022 yn ddeg prosiect agored, gwreiddiol, cadarnhaol, ac anghyffredin ar raddfa fawr a fydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU i'r byd. Rydym yn chwilio am y meddyliau gorau a'r doniau disgleiriaf o'r meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg, yng Nghymru, i ffurfio Timau Creadigol a fydd yn gallu datblygu prosiectau ymgysylltu â'r cyhoedd ar raddfa fawr i arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ysgrifennu at fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ym Mhrydain ac sy’n masnachu gyda’r UE, neu’r UE a gweddill y byd. Maent yn egluro beth sydd angen i fusnesau angen ei wneud i baratoi ar gyfer prosesau newydd, neu symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE o 1 Ionawr 2021, gan gynnwys: sicrhau bod ganddynt rif Adnabod a Chofrestru Gweithredwyr Economaidd y DU (EORI) penderfynu sut byddant yn...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau a gwybodaeth amrywiol ar y coronafeirws a allai fod yn ddefnyddiol i’ch busnes. Mae’n cynnwys: Cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle – mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu cadw pobl ar wahân i helpu i leihau lledaeniad COVID-19 Lles gyrwyr – mae’n rhaid i safleoedd deiliaid dyletswydd lle mae’n llwytho a dadlwytho’n digwydd gymryd camau rhesymol i ddiogelu iechyd a diogelwch gyrwyr sy’n dosbarthu a chasglu...
Bydd ap COVID-19 y GIG yn cael ei lansio ddydd Iau 24 Medi yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys cofrestru QR mewn lleoliadau. Mae busnesau’n cael eu hannog i lawrlwytho codau QR y GIG. Bydd codau QR yn ffordd bwysig i unigolion gofnodi eu symudiadau gan helpu system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG. Dylech greu ac arddangos cod QR os ydych: yn fusnes, yn fan addoli neu’n sefydliad cymunedol â lleoliad ffisegol sy’n agored i’r...
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt. Bob blwyddyn, dyfernir 9 o Wobrau Dewi Sant, gyda’r cyhoedd yn enwebu ar gyfer 8 ohonynt: dewrder ysbryd y gymuned gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol) diwylliant a chwaraeon busnes arloesedd, gwyddoniaeth a thechnoleg dyngarol person ifanc gwobr arbennig y Prif Weinidog Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 15 Hydref 2020 a bydd y seremoni wobrwyo yn...
Am wybod sut gall defnyddio’r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes? Ymuna yn ddigwyddiad rhithiol Helo Blod ‘Defnyddio’r Gymraeg – Cadw cwsmeriaid Ffyddlon’ yn rhad ac am ddim, i glywed gan 3 busnes – Jin Talog, Sir Gâr, Dyfi Reflexology, Powys a Beeswax Fabric Wraps, Ynys Môn sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn llwyddiannus. Mae’n gyfle hefyd i ddysgu sut gall Helo Blod helpu dy fusnes ddefnyddio’r Gymraeg am ddim: Dod â phobl at ei...
WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol o blymwyr cymeradwy. Mae ganddi gefnogaeth holl gwmnïau dŵr y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, a'r rheoleiddiwr dŵr yfed. Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo plymwyr medrus er mwyn helpu i gadw dŵr yfed Cymru’n ddiogel a’i amddiffyn rhag difwyniad. Mae holl Blymwyr Cymeradwy WaterSafe wedi cael hyfforddiant penodol ac wedi ennill cymwysterau'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Ac am fod rhaid i bob eiddo sy'n cael eu cyflenwadau gan Ddŵr...
Pagination
- Previous page
- Page 226
- Next page