news and blogs Archives
31 canlyniadau
Deall eich rôl fel cyfarwyddwr cwmni a'ch cyfrifoldebau i Dŷ'r Cwmnïau. Fel cyfarwyddwr, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am redeg y cwmni a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hanfon atom ar amser. Mae hyn yn cynnwys: y datganiad cadarnhau y cyfrifon blynyddol, hyd yn oed os ydynt yn segur unrhyw newid yn swyddogion eich cwmni (tudalen Saesneg) neu eu manylion personol newid i swyddfa gofrestredig eich cwmni rhandir cyfranddaliadau cofrestru taliadau (morgais) unrhyw newid...
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi lansio dau offeryn diogelwch newydd wedi'u hanelu at fusnesau bach, microfusnesau, sefydliadau ac unig fasnachwyr sydd heb yr adnoddau i fynd i'r afael â materion seiber. Dadorchuddiodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth – y gwasanaethau i gyd-fynd â cham diweddaraf ei hymgyrch Cyber Aware. Gellir llenwi’r Cyber Action Plan ar-lein mewn llai na 5 munud ac mae'n arwain at gyngor wedi'i deilwra i...
Ydych chi’n cyflogi pobl anabl? Hoffech chi ehangu’r gronfa dalent sydd ar gael ichi a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eich gweithlu? Neu ydych chi am gefnogi’r gweithwyr anabl sydd eisoes yn rhan o’ch gweithlu? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a gwneud busnesau mor gynhwysol â phosibl, gan greu amodau lle gall pob unigolyn ffynnu. Yn draddodiadol mae cyfradd cyflogaeth pobl anabl yn sylweddol is na chyfradd cyflogaeth...
Darganfyddwch fwy am ddulliau y mae twyllwyr yn eu defnyddio i geisio cael eich gwybodaeth bersonol drwy wylio enghreifftiau o sgamiau a amlygwyd gan CThEF. Weithiau, bydd CThEF yn cysylltu â chwsmeriaid dros y ffôn, drwy e-bost, llythyr ac weithiau'n defnyddio cwmnïau ymchwil i gysylltu â chwsmeriaid. Os nad ydych yn siŵr bod y cyswllt yn ddilys, yna edrychwch ar y canllaw wedi'i ddiweddaru ar enghreifftiau o negeseuon e-bost gwe-rwydo, galwadau ffôn a negeseuon testun...
Â’r haf yn prysur nesáu a’r cynnydd mewn gwaith tymhorol yn sgil hynny, mae gweithwyr mor debygol o gael damwain yn ystod y chwe mis cyntaf mewn gweithle ag y maen nhw yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. Mae’r risg ychwanegol yn digwydd oherwydd y canlynol: diffyg profiad o weithio mewn diwydiant neu weithle newydd ddim yn gyfarwydd â'r swydd a’r amgylchedd gwaith amharodrwydd i fynegi pryderon (neu ddim yn gwybod sut i wneud hynny)...
Cyllido Cymru yw'r llwyfan i chwilio am gyllid i'r trydydd sector yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnynt yn gynt nag erioed o'r blaen. Mae'r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau...
Mae'n bwysig sicrhau bod eich gweithle’n gynhwysol o ran pobl fyddar a phobl trwm eu clyw. Os nad ydych chi, rydych chi'n eithrio nifer fawr o bobl: er enghraifft, mae gan 1 o bob 5 person o oedran gweithio golled clyw a all effeithio ar eu cyfathrebu, eu cynhyrchiant a’u lles. Mae'r RNID (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar) yn elusen annibynnol sy'n cefnogi'r 12 miliwn o bobl yn y DU sy'n fyddar neu sydd â...
Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd.Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu. Mae TUC Cymru wedi...
Mae Helo Blod, gwasanaeth cynghori a chyfieithu am ddim, yn dathlu cyfieithu miliwn o eiriau ar ôl cyflwyno mwy na 1000 o fusnesau ledled Cymru i fanteision defnyddio rhagor o Gymraeg a hynny fel rhan o ymdrech i helpu i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. Mae Helo Blod, a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2020 i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfieithu hyd at 500 gair y mis am...
Pagination
- Previous page
- Page 3
- Next page