news and blogs Archives
1821 canlyniadau
Mae ceisiadau am Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 ar gyfer cymorth busnes rhwng Mai 2021 a Mehefin 2021 bellach ar agor a byddant yn cau am 5pm ar 7 Mehefin 2021. Gofynnir i fusnesau cymwys sydd â throsiant o lai na £85,000 wneud cais drwy eu hawdurdod lleol. Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru wedi dechrau agor ceisiadau ar gyfer y busnesau hynny sy'n gymwys, os nad yw ceisiadau eich Awdurdod Lleol ar gael eto, dylech ailedrych...
Mae MADE Cymru yn gyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Gall y cyrsiau a achredwyd gan brifysgolion a'n cynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr helpu unigolion a sefydliadau i addasu i heriau Diwydiant 4.0. Drwy alluogi gweithgynhyrchwyr Cymru i fanteisio ar y technolegau uwch diweddaraf, mae y tri phrosiect craidd yn helpu i sicrhau newid aflonyddgar i ddiwydiant cynhyrchu Cymru tra'n annog cydweithio...
Mae busnesau Cymru yn cael eu hannog i wylio gweminar newydd CThEM ar Reolau Tarddiad. Bydd y weminar yn helpu masnachwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfraddau tariff ffafriol sydd ar gael iddynt ers 1 Ionawr 2021, am nwyddau y maent yn eu masnachu gyda'r UE. Gweminar wedi'i recordio yw hon, y gall masnachwyr weithio drwyddi ar eu liwt eu hunain - ac mae'n defnyddio enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos i amlinellu...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyda chymorth rhanddeiliaid y diwydiant wedi cydweithio i gyhoeddi Pecyn Cymorth Siarad am Straen cysylltiedig â Gwaith ar gyfer y sector adeiladu. Mae dechrau’r sgwrs yn gam cyntaf pwysig i atal straen cysylltiedig â gwaith, a bydd y pecyn cymorth yn helpu i wneud hynny. Mae’r pecyn cymorth wedi’i baratoi’n bennaf ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd ganddynt weithlu rheolaidd (cyflogedig a chontract) ac sy’n awyddus i...
Manylion y cyfraddau a'r trothwyon pan fyddwch yn gweithredu eich cyflogres neu'n darparu treuliau a buddion i'ch cyflogeion. Defnyddiwch y dolenni canlynol ar gyfer: Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Trothwyon, cyfraddau a chodau treth Trothwyon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddion Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tysteb chwaraeon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSA) Isafswm Cyflog Cenedlaethol...
P’un ai’ch bod yn gweithio i chi’ch hun neu’n rhedeg busnes gyda gweithwyr, ni ddylai seiberddiogelwch godi ofn arnoch. Mae gan y National Cyber Security Centre (NCSC) gyngor a gwybodaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh). Mae NCSC newydd lansio eu sesiynau e-ddysgu Cyber Security for Small Organisations ac awgrymiadau gwych i staff, sy’n caniatáu i chi gynnwys y pecyn yn rhan o hyfforddiant eich sefydliad chi. I gael rhagor o fanylion am seiberddiogelwch...
Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae mwy o alw wedi bod am hylif diheintio dwylo a chynhyrchion diheintio arwynebau. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllawiau i gyflogwyr sy'n darparu hylif diheintio dwylo i'w gweithwyr ac eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd, ac ar gyfer gweithgynhyrchwyr hylif diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau sy’n bodoli eisoes a rhai newydd. Gall y canllawiau ar ddewis hylif diheintio dwylo fod yn ddefnyddiol i aelodau'r...
Ymunwch â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), Innovate UK a KTN, am fanylion ffenestr y gwanwyn o gyllid gan y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol ac i arddangos rhai o’r prosiectau a gyllidwyd yng Ngham 1 y Gronfa. Mae’r cyllid ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn werth hyd at £40 miliwn. Bydd ar gael ar ffurf cynllun grant a bydd yn cyllido: defnydd technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed. astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg Bydd...
Bydd y gronfa’n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021. Yn benodol, bydd y gronfa’n cefnogi busnesau sydd naill ai: a) Yn gorfod aros ar gau gan gyfyngiadau...
Bydd Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn mewn prosiectau arloesi. Nod y Gronfa Diwydiannau Creadigol yw darparu pecyn o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer twf fel y gall busnesau creadigol uchelgeisiol gyrraedd eu potensial. Gall busnesau micro a bach sydd wedi cofrestru yn y DU yn y sector creadigol wneud cais am becyn cymorth i ddatblygu eu busnes. Mae'r pecyn yn cynnwys cymorth parhaus gan Innovate...
Pagination
- Previous page
- Page 182
- Next page