news and blogs Archives

1701 canlyniadau

Mae pecyn cymorth newydd wedi lansio i gefnogi busnesau a sefydliadau wrth iddyn nhw helpu eu gweithwyr i gael y brechlyn COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu. Bydd yn eu hannog i wneud y canlynol: Bod mor hyblyg â phosibl pan fydd yn amser i staff gael brechlyn, a allai gynnwys rhoi amser o’r gwaith gyda thâl i weithwyr...
Mae hyb cyngor newydd wedi’i lansio i helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau cyflogaeth yn y gwaith. Bydd yr hyb ar-lein, sef partneriaeth rhwng DBEIS ac Acas, yn rhoi cyngor clir i bobl anabl a chyflogwyr ar hawliau cyflogaeth – o wahaniaethu yn y gweithle i addasiadau rhesymol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Acas.
Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau wrth inni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr â bodolaeth y feirws. Mae cynllunio ymlaen llaw yn helpu i gadw eich staff, eich cwsmeriaid, a’ch busnes yn ddiogel. Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’n bwysig bod pobl yn cael profion rheolaidd...
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn newid, rhwng 1 Awst 2021 a 30 Medi 2021 (pan fydd y cynllun yn cau), bydd Llywodraeth y DU yn talu 60% o gyflogau arferol gweithwyr am yr oriau nad ydyn nhw’n cael eu gweithio, hyd at derfyn o £1,875. Bydd angen i gyflogwyr barhau i dalu’r gwahaniaeth, fel eu bod yn talu gweithwyr ar ffyrlo o leiaf 80% o’u cyflogau arferol yn llawn am yr...
Saesneg yn unig. “I don’t believe it” When an employee’s disbelief causes a stir in the workplace, would you know how to respond? Belief is a protected characteristic under the Equality Act 2010. This means that a person cannot be discriminated against because of, or lack of, their belief. In guidance, belief gets grouped together with religion. However, unlike religion, belief is not as clearly defined. This understandably can be a source of confusion for...
Mae Llywodraeth y DU yn ceisio safbwyntiau ar gyfundrefn dihysbyddu eiddo deallusol yn y DU yn y dyfodol, a fydd wrth wraidd system fasnach gyfochrog y DU. Mae ‘dihysbyddu eiddo deallusol’ wrth wraidd y system fasnach gyfochrog. Masnach gyfochrog yw mewnforio ac allforio nwyddau sy’n cael eu gwarchod gan eiddo deallusol (er enghraifft, unrhyw beth o lyfrau, cydrannau ceir i feddyginiaethau) gan weithredwyr marchnad eilaidd. Fel arfer, bydd symud nwyddau ar y farchnad eilaidd ar...
Breakthrough sy’n annog buddsoddwyr preifat i gyd-fuddsoddi mewn cwmnïau twf uchel, arloesol. Mae’r rhaglen yn gwneud cyd-fuddsoddiadau ecwiti gyda buddsoddwyr sector preifat mewn cwmnïau ymchwil a datblygu dwys o Brydain sydd mewn cyfnod twf ac sy’n gweithredu mewn sectorau technoleg arloesol. Rhaid i gyfanswm y buddsoddiad yn y cylch fod yn £30 miliwn o leiaf. Uchafswm cyfran Cronfa’r Dyfodol: Breakthrough mewn cylch buddsoddi yw 30%. Mae’n rhaglen ar wahân i hen Gronfa’r Dyfodol a oedd...
Bydd canllawiau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn eich helpu i sylwi ar awyru gwael yn y gweithle a chymryd camau ymarferol i wella hynny. Gall hyn helpu i leihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn eich gweithle. Mae'r canllawiau diweddaraf yn cynnwys fideo newydd sy'n rhoi cyngor allweddol, gyda gwybodaeth am y canlynol: adnabod ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael a defnyddio monitorau CO2 gwella awyru naturiol sut i wella awyru mecanyddol unedau...
Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno. Daw’r newidiadau, a gyfeirir atynt hefyd fel ‘Cyfraith Natasha’, i rym ar ôl i ferch ifanc o’r enw Natasha...
Gwasanaeth rhad ac am ddim gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yw 'Early Warning' sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i'ch sefydliad am ymosodiadau seiber posibl ar eich rhwydwaith, cyn gynted â phosibl. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio amryw o ffrydiau gwybodaeth gan yr NCSC, ffynonellau cyhoeddus, masnachol a chaeedig y gellir ymddiried ynddynt, sy'n cynnwys nifer o ffrydiau breintiedig nad ydynt ar gael mewn mannau eraill. Mae ‘Early Warning’ yn helpu sefydliadau i ymchwilio i...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.