news and blogs Archives
1421 canlyniadau
Beth yw CyberAlarm yr Heddlu? Mae CyberAlarm yr Heddlu yn adnodd am ddim i helpu’ch busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae’n gweithredu fel “Camera CCTV” sy’n monitro traffig a welir gan gysylltiad eich busnes â’r rhyngrwyd. Bydd yn canfod a darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch maleisus amheus, gan leihau pa mor agored yw’ch busnes i niwed. Ar ôl i chi ddod yn aelod o CyberAlarm yr Heddlu, byddwch yn gosod ‘Gweinydd Rhithwir...
Mae CThEM yn datblygu system ar gyfer gwiriadau treth a fydd yn berthnasol wrth adnewyddu trwyddedau gyrwyr tacsi a safleoedd metel sgrap, i enwi dim ond rhai, yng Nghymru a Lloegr. Bydd y gwiriad yn cael ei integreiddio i’r cais am drwydded ac ni fydd asiantau yn gallu ei gwblhau ar ran cleientiaid. O fis Ebrill 2022, wrth adnewyddu trwyddedau penodol yn y sectorau trafnidiaeth a metel sgrap, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau gwiriad...
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS Gallwn nawr edrych yn fwy hyderus tua’r dyfodol a chynllunio ar gyfer dechrau codi cyfyngiadau rhybudd lefel dau. Rydym heddiw yn cyhoeddi cynllun i ddychwelyd i lefel rhybudd sero. Fel o’r blaen, byddwn yn dechrau trwy lacio’r cyfyngiadau yn yr awyr agored. Mae un newid yn cael ei wneud ar unwaith – o fory (15 Ionawr 2022), bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi lansio ffenestr cystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol. Mae Cam 2 yn werth oddeutu £220 miliwn mewn cyllid rhwng Hydref 2021 a 2025. Gall busnesau yng Nghymru nawr gynnig am gyfran o hyd at £60 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr cystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022. I weld y canllawiau ar wneud cais a chyflwyno cais am gyllid, ewch i dudalen cystadleuaeth...
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn annog unrhyw un sydd wedi syrthio i ddyled gyda’u taliadau rhent oherwydd y pandemig i gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael gwybod a allant gael cymorth ariannol i osgoi cael eu troi allan. Mae'r alwad yn ymgais i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn agos at eu rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn osgoi'r effaith ddinistriol y gall digartrefedd ei chael ar les corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Cyhoeddwyd...
Daeth rheolaeth tollau llawn i rym ar 1 Ionawr 2022. Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), efallai y byddwch chi’n cael eich effeithio. Os oes gennych chi gwestiwn penodol am fewnforio, allforio neu ryddhad tollau ffoniwch linell gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am a 4pm ar...
Bydd Awdurdodau Lleol yn darparu grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT). Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn: Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR)...
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4 miliwn ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus Covid-19. Mae'r cymorth ychwanegol, fel rhan o drydedd rownd y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar gael i'r sectorau diwylliannol yng Nghymru wrth iddo barhau i gael ei effeithio gan bandemig Covid. Bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau yr effeithir arnynt gan y mesurau lefel rhybudd 2 diweddar y mae Gweinidogion wedi'u rhoi...
Bydd y rheolau newydd ar farc yr UKCA – a fydd yn disodli marc y CE – yn dod i rym o 1 Ionawr 2023, ac mae BEIS yn cynnal cyfres o weminarau i helpu busnesau i ddeall y broses o fabwysiadu marc diogelwch yr UKCA. Cynhelir y gweminar nesaf ar 18 Ionawr 2022 a bydd yn canolbwyntio ar fusnesau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu neu gyflenwi nwyddau â marc y CE/ UKCA ar farchnad Prydain...
Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl, ac maentyn ymgynghori ar newidiadau i’r TTT er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl sy'n awyddus i brynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol. Rydym yn ceisio barn ar y canlynol: maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau lleol gael eu cyflwyno, er enghraifft...
Pagination
- Previous page
- Page 142
- Next page