Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023, mae Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi galw ar gwmnïau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol am iechyd y cyhoedd. Mae'r adroddiad eleni, o'r enw ‘Siapio ein Hiechyd’, yn canolbwyntio ar y strategaethau a'r dulliau sy'n cael eu defnyddio gan fusnesau i hyrwyddo cynhyrchion a dewisiadau sy'n niweidiol i'n hiechyd – gan gynnwys fepio, gamblo a bwyd a diod sydd wedi'u prosesu hyd at...