- Math o ddigwyddiad:
- Overseas
- Dyddiad ac amser:
- to
- Lleoliad:
- Dubai Expo , Dubai, UAE
Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni neu ymweld â World Health Expo Dubai (WHX Dubai) 2026, sef Arab Health gynt.
Pam World Health Expo Dubai (WHX Dubai) 2027?
WHX yw’r sioe fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol i’r sector meddygol, yn denu dros 4,200 o arddangoswyr o 195 o wledydd, yn amrywio o sefydliadau sydd ar flaen y gad yn fyd-eang i gwmnïau bach, a dros 60,000 o ymwelwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru yn y sector gwyddorau bywyd.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hwn.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr - Mae'r gost arddangos naill ai yn £6,000 am stondin mawr neu’n £4,800* am uned fetr sgwâr.
• Tocynnau hedfan dwyffordd
• Y daith o’r maes awyr ac yn ôl yn yr UAE (os teithiwch gyda'r grŵp)
• Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
• Tocyn i’r arddangosfa
• Stondin arddangos a chofrestriad ar gyfer yr arddangosfa
• Mynediad ar-lein/catalog
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd - Mae'r gost yn £1,750.00*. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os byddwch yn teithio’r ddwy ffordd gyda’r Grŵp)
- Llety am 6 noson (gyda brecwast)
- • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
* Nid yw pasys ymwelydd wedi'u cynnwys yn y pecyn hwn ac mae'n rhaid eu prynu'n arwahan. Nid yw'n bosibl mwyach i ni brynu pasys ymwelydd ar ran eich cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 23-29 Ionawr 2027
Sectorau: Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg Feddygol
Ble: Dubai
Trefn
22 Ionawr – Gadael am Dubai
25-28 Ionawr – WHX Dubai
29 Ionawr – Nôl i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 13 Tachwedd 2026 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
13 Tachwedd 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arddangoswyr a ymwelwyr gan gynnwys teithio, llety, a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.
17 Rhagfyr 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymwelwyr ar gyfer pecynnau teithio a llety yn unig.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Mae ffi arddangoswr yn destun TAW
*Mae costau yn dibynnu ar gymhwysedd a lle ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nifer gyfyngedig o becynnau ar y gyfradd a hysbysebwyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnal ceisiadau y tu hwnt i'n dyraniad; fodd bynnag, gall ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl i'r holl becynnau a ddyrannwyd gael eu cymryd, fod yn destun costau uwch nag y cyhoeddwyd.
How to register
Cau recriwtio’n fuan! Cofrestrwch eich mynegiant o ddiddordeb a byddwn yn anfon e-bost atoch cyn gynted ag y bydd recriwtio’n agor a’r digwyddiad yn mynd yn fyw.
Book online