Arddangosfa Iechyd y Byd Dubai (WHX Dubai) 2027

Math o ddigwyddiad:
Overseas
Dyddiad ac amser:
to
Lleoliad:
Dubai Expo , Dubai, UAE

Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni neu ymweld â World Health Expo Dubai (WHX Dubai) 2026, sef Arab Health gynt. 

Pam World Health Expo Dubai (WHX Dubai) 2027?

WHX yw’r sioe fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol i’r sector meddygol, yn denu dros 4,200 o arddangoswyr o 195 o wledydd, yn amrywio o sefydliadau sydd ar flaen y gad yn fyd-eang i gwmnïau bach, a dros 60,000 o ymwelwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru yn y sector gwyddorau bywyd. 

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 

Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hwn.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd: 

Arddangoswr - Mae'r gost arddangos naill ai yn £6,000 am stondin mawr neu’n £4,800* am uned fetr sgwâr.


•    Tocynnau hedfan dwyffordd 
•    Y daith o’r maes awyr ac yn ôl yn yr UAE (os teithiwch gyda'r grŵp)
•    Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
•    Tocyn i’r arddangosfa 
•    Stondin arddangos a chofrestriad ar gyfer yr arddangosfa
•    Mynediad ar-lein/catalog 
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.

Ymwelydd - Mae'r gost yn £1,750.00*. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl 
  • Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os byddwch yn teithio’r ddwy ffordd gyda’r Grŵp)
  • Llety am 6 noson (gyda brecwast)
  • •    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
    •    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. 

* Nid yw pasys ymwelydd wedi'u cynnwys yn y pecyn hwn ac mae'n rhaid eu prynu'n arwahan. Nid yw'n bosibl mwyach i ni brynu pasys ymwelydd ar ran eich cwmni.

Manylion y Digwyddiad

Pryd: 23-29 Ionawr 2027

Sectorau: Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg Feddygol

Ble: Dubai

Trefn

22 Ionawr – Gadael am Dubai

25-28 Ionawr – WHX Dubai

29 Ionawr – Nôl i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd 

Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 13 Tachwedd 2026 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:

13 Tachwedd 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arddangoswyr a ymwelwyr gan gynnwys teithio, llety, a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw. 

17 Rhagfyr 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymwelwyr ar gyfer pecynnau teithio a llety yn unig.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Mae ffi arddangoswr yn destun TAW

*Mae costau yn dibynnu ar gymhwysedd a lle ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nifer gyfyngedig o becynnau ar y gyfradd a hysbysebwyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnal ceisiadau y tu hwnt i'n dyraniad; fodd bynnag, gall ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl i'r holl becynnau a ddyrannwyd gael eu cymryd, fod yn destun costau uwch nag y cyhoeddwyd.

How to register

Cau recriwtio’n fuan! Cofrestrwch eich mynegiant o ddiddordeb a byddwn yn anfon e-bost atoch cyn gynted ag y bydd recriwtio’n agor a’r digwyddiad yn mynd yn fyw.

Book online

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.