Cynaliadwyedd a Chadwraeth
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol a chadwraeth wrth wraidd popeth sy’n digwydd yn Sŵ Môr Ynys Môn - maen nhw’n lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd drwy ailgylchu, monitro defnydd o ynni, a thrwy gefnogi a defnyddio cynnyrch a chynhyrchwyr lleol.
Dŵr
Gyda dros 40 o danciau yn arddangos y gorau o fywyd gwyllt morol Prydain, mae Sŵ Mor Ynys Môn yn pwmpio dŵr yn uniongyrchol o Afon Menai, i mewn i’r tanciau, i greu amgylchedd naturiol yn yr acwariwm. Mae ganddynt hefyd ardal sy’n efelychu tonnau garw, lle mae tunnell o ddŵr yn cael ei ollwng i’r tanc pob 30 eiliad!
Hefyd, fe welwch orsafoedd ail-lenwi dŵr o amgylch y safle, felly dewch â photel gyda chi i’w llenwi. I ddysgu sut y gallwch roi newidiadau ar waith yn eich busnes - lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Dŵr.
Gwastraff
Creodd y tîm yn Sŵ Môr ardal gompostio, gan ddechrau ailgylchu gwastraff. Arweiniodd hynny at 95% o’r gwastraff ar y safle yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio.
Mae cyfleusterau ailgylchu ar gael ar hyd y safle i ymwelwyr, ac ychydig iawn o wastraff tirlenwi y mae’r Sw Mor yn ei gynhyrchu. Maent hefyd wedi gwaredu plastigau untro. Gall ymwelwyr brynu cynnyrch aml-dro pwrpasol â’r brand.
Byddwch hefyd yn gweld y tîm yn brysur yn glanhau’r traeth yn rheolaidd yn Nhraeth Tan-y-Foel, gyda data o’r arolygon sbwriel yn cael eu hanfon i’r Gymdeithas Gadwraeth Forol at ddibenion ymchwil.
Eisiau gwybod mwy am sut y gallwch droi eich gwastraff yn rhywbeth positif? Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Gwastraff.
Ynni
Ynni
Yn 2017, Sŵ Môr Ynys Môn oedd yr acwariwm cyntaf yn y DU i gael ei bweru gan ynni solar, yn dilyn buddsoddi i system PV 50kW o 166 o baneli solar effeithlon iawn. Mae’r rhain yn cyfrannu’n sylweddol at ofynion defnydd ynni cyffredinol y busnes.
A yw hyn wedi rhoi syniad i chi o sut y gallwch chi newid y ffordd rydych chi’n defnyddio ynni? Mynnwch gip ar ein Pecyn Adnoddau Ynni.
Cadwraeth
Yn fwy nag o’r blaen, mae cadwraeth yn dod yr agwedd fwyaf pwysig ar waith unrhyw acwariwm. Gyda’r boblogaeth yn cynyddu’n gyson, a’r gystadleuaeth am dir ac adnodda naturiol eraill, mae llawer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid eisoes wedi’u difa oherwydd gweithredoedd bodau dynol, tra bod eraill dan bwysau sylweddol oherwydd gor-bysgota a gweithgareddau dynol dinistriol eraill.
Dyma pam y mae Sŵ Môr Ynys Môn wedi datblygu ac yn cynnal rhaglenni bridio mewn caethiwed, rhyddhau, cadwraeth ac addysg.
Rhaglen Ddogfen Lawn