Yn y gyfres hon, rydyn ni’n eich cyflwyno chi i’n Rheolwyr Perthnasoedd arbenigol. Y mis hwn, dewch i gwrdd â Carmel Gahan, cynghorydd profiadol iawn sy'n cyfuno hanes cryf o gynorthwyo busnesau ag angerdd dros helpu busnesau Cymru i dyfu a llwyddo.

Mae Carmel wedi cysegru ei gyrfa i gefnogi entrepreneuriaid, o'i dyddiau cynnar fel aelod o Fwrdd Antur Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn i'w rôl bresennol ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Enillodd wobr bwysig y Frenhines am Gyflawniad Oes am Gymorth Menter, ac mae ganddi ganfyddiad o'r sector preifat a mentrau cyhoeddus, gan gynnwys Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Llywodraeth Cymru. A hithau’n rhugl ei Chymraeg – iaith a ddysgodd yn oedolyn ar ôl symud o Iwerddon – mae Carmel yn credu'n gryf yn y cysylltiad rhwng entrepreneuriaeth, cynaliadwyedd cymunedol a'r Gymraeg.

Dyma ni’n holi Carmel beth sy’n ei gyrru hi a’r cyngor y mae hi’n ei roi fynychaf i fusnesau sy’n tyfu.

Beth a’ch denodd chi’n gyntaf at weithio gyda busnesau twf uchel?

Rwyf bob amser wedi gweithio mewn busnes neu mewn mentrau sy'n grymuso entrepreneuriaid, er i mi gael fy addysgu i ddilyn llwybr mwy yn y celfyddydau breiniol. Ar ôl dechrau busnesau fy hun a chodi buddsoddiad, roeddwn i'n teimlo y gallwn i ddefnyddio fy mhrofiad personol i helpu eraill.

Rwy'n hoffi gweithio gyda chwmnïau twf uchel oherwydd eu bod nhw’n gymhleth, hyd yn oed y rhai sydd â llai na deg o weithwyr. Maen nhw’n creu swyddi a chyfleoedd i bobl aros yn eu cymunedau. Rydw i hefyd yn credu’n angerddol yn y cysylltiad rhwng entrepreneuriaeth a goroesiad y Gymraeg a chenedl Cymru.

Beth yw’r rhan fwyaf buddiol o fod yn Rheolwr Perthnasoedd yn RCT?

Arbed amser a phryder i bobl, er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar dyfu eu busnes. Pan fydd entrepreneuriaid yn manteisio ar y cymorth y mae RCT yn ei gynnig, gall fod yn wirioneddol drawsnewidiol.

Beth yw’r darn o gyngor busnes gorau rydych chi wedi’i roi neu wedi’i dderbyn erioed?

Y cyngor gorau i mi ei roi erioed oedd i entrepreneur llwyddiannus, iddo beidio â rhedeg ei fusnes fel busnes newydd. Gwrandawodd arna i, a thyfu ei dîm rheoli a sefydlu strwythurau rheoli cywir. Ymhen dwy flynedd, tyfodd y busnes 50% ac fe’i gwerthodd am filiynau o bunnoedd. Mae’n dal i dyfu o dan ei berchnogion newydd ac yn creu rhagor o swyddi.

Beth yw’r un nodwedd a welwch chi yn yr arweinwyr busnes mwyaf llwyddiannus?

Dewrder.

Sut ydych chi’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Ces i fy ysbrydoli gan gleient o’r enw Corgi Socks, ac rydw i wedi dysgu gwnïo â pheiriant ac rydw i wrth fy modd yn creu darnau i’r teulu, ffrindiau ac elusennau. Rydw i hefyd yn canu’r ffidl mewn grŵp sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth Gymreig a Gwyddelig draddodiadol. Dri mis yn ôl, dechreuais i ddysgu’r delyn, ac rydw i wrth fy modd â’r offeryn, cyn bo hir bydda i’n ymuno ag ensemble telyn sydd newydd ei greu yn Abertawe.

Beth yw’r un peth yr hoffech chi i bob un o fusnesau RCT ei wybod?

Dydych chi ddim yn gwybod popeth, felly mynnwch gyngor arbenigol. Byddwch yn agored i’ch newid chi’ch hun yn ogystal â’ch busnes.

Pa heriau yr ydych chi’n helpu cleientiaid i’w goresgyn fynychaf?

Y tri phrif faes yw:

  • Helpu perchnogion i sylweddoli bod gollwng gafael ac ymddiried yn eu timau yn dda iddyn nhw, i’w busnes ac i’w teuluoedd.

  • Annog busnesau i ddefnyddio data’n gynhyrchiol i olrhain perfformiad ac atebolrwydd.

  • Cefnogi busnesau i newid cyfeiriad os nad yw pethau’n gweithio, er gwaethaf eu hymdrechion gorau.

Allwch chi rannu achlysur rydych chi’n falch ohono o’ch amser yn RCT?

Roedd un busnes wedi gwario llawer ar ymgynghorwyr allanol ond cafodd drafferth gweithredu’r cyngor. Des i â thri o hyfforddwyr RCT i mewn i gydweithredu ar y broblem, a gwelodd y cwmni fudd cyflym a chynnydd go iawn. Rwy’n ymfalchïo yn fy ngallu i wybod pryd i ddod â’r bobl gywir at ei gilydd i arbed amser, osgoi dyblygu gwaith, a gwneud gwahaniaeth.

Ac i gloi, beth yw eich cyngor di-ffael chi i berchnogion busnesau uchelgeisiol?

Byddwch yn agored i dderbyn help a chyngor. Bydd yn arbed amser, arian a phoendod i chi. Ymddiriedwch yn y broses gymorth. Cewch chi gyngor annibynnol gan bobl sy’n awyddus i chi lwyddo.

Hoffech chi siarad â Carmel am eich cam nesaf?

Pa un ai a ydych chi’n wynebu her neu’n archwilio cyfleoedd newydd, mae Carmel yma i helpu’ch busnes i symud ymlaen gydag eglurder a hyder. Cysylltwch heddiw i ddechrau’r sgwrs.

Share this page

Print this page