Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes nesaf Busnes Cymru, sef rhaglen deg wythnos gwbl ar-lein a fydd yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 30 Medi 2025 a dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 15 Medi 2025.
Mae’r rhaglen gyflymu wedi ei dylunio’n arbennig ar gyfer entrepreneuriaid yng Nghymru sydd â syniadau busnes twf uchel, gan gynorthwyo eu datblygiad o sicrhau cwsmer cyntaf i baratoi ar gyfer buddsoddiad. Bydd cyfranogwyr yn elwa o gymorth wedi ei deilwra gan hyfforddwyr profiadol sydd â ffocws cryf ar adeiladu model busnes cynaliadwy a chynhyrchu refeniw.
Dros y deng wythnos, bydd sefydlwyr yn dilyn dull clir, fesul cam o lunio eu syniad, ennill cwsmeriaid sy’n talu a chryfhau eu seiliau busnes. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn helpu cyfranogwyr i adeiladu sgiliau craidd trwy weminarau, dosbarthiadau meistr a mentora fesul un, ynghyd â rhwydweithio cymheiriaid i gysylltu ag entrepreneuriaid o’r un anian. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys defnyddio AI i wella creadigrwydd ac ymchwil marchnad, gan helpu i leihau’r amser i’r farchnad a gwella effeithiolrwydd, ynghyd â chysylltiadau cyhoeddus a chyfleoedd marchnata i godi proffil eich busnes.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu lleoli yng Nghymru a chyflwyno syniad busnes cyn refeniw sy’n gallu:
• Sicrhau trosiant blynyddol o £1 miliwn erbyn 2029
• Creu 10 neu ragor o swyddi amser llawn erbyn 2029
• Allforio’n rhyngwladol
Meddai Lucy McCarthy-Christofides, sefydlydd y busnes ategion ADHD, Môr, a chyn-gyfranogwr:
“Rhoddodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes y strwythur a’r hyder i mi symud o’r syniad i weithredu. Trodd Môr o fod yn genhadaeth unigol i fod yn fusnes cyllidadwy â ffocws. Atgoffodd fi nad oedd rhaid i mi wneud y cyfan ar fy mhen fy hun. Os oes gennych chi syniad cryf a’r cymhelliant i roi prawf arno gyda chwsmeriaid go iawn, byddwn i’n eich argymell chi i wneud cais i’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes erbyn 15 Medi.”
Meddai Fiona McLaren, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes:
“Hon yw’r alwad olaf am geisiadau cyn dyddiad cau 15 Medi. Rydyn ni’n chwilio am syniadau busnes cryf gan sefydlwyr sydd wedi nodi problem i gwsmeriaid ac arwyddion cynnar o alw. Ar draws y deng wythnos, rydyn ni’n canolbwyntio ar weithredu, gan gynnwys rhoi prawf ar dybiaethau, mireinio prisiau a defnyddio AI i arbed amser o ran ymchwil a gweinyddu. Oherwydd y cymorth hwnnw sydd wedi’i dargedu a’i deilwra, gall sefydlwyr ganolbwyntio ar greu cynhyrchion neu wasanaethau y bydd cwsmeriaid yn talu amdanyn nhw.
“Mae’r rhaglen wedi ei hariannu’n llawn, felly does dim ffi i gymryd rhan. Caiff cyfranogwyr gymorth un-i-un, cerrig milltir wythnosol clir ac adborth ymarferol sy’n creu momentwm ac atebolrwydd.
“Gallwn ni hefyd gynnig arian i oresgyn rhwystrau ac addasiadau eraill, pan fydd busnesau’n gymwys, i ddileu ffactorau sy’n rhwystro rhai rhag cymryd rhan. Felly, pe bai anghenion mynediad neu gyfrifoldebau gofalu’n eich rhwystro chi fel arall, rhowch wybod i ni yn eich cais.”
Ychwanegodd Richard Selby, Cadeirydd Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru ac un o feirniaid gwobrau’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes:
“Mae syniadau da’n symud yn gynt gyda’r strwythur, yr her a’r cysylltiadau cywir. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn dod â’r elfennau hynny at ei gilydd mewn modd ymarferol sy’n helpu sefydlwyr i wneud cynnydd mesuradwy ac sy’n cryfhau economi ehangach Cymru.”
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes erbyn dydd Llun 15 Medi 2025.
Gall darpar entrepreneuriaid wneud cais yn: https://events.newable.co.uk/events/13/start-up-accelerator-september-2025?lang=cy