Bob mis, mae ein Rheolwyr Perthnasoedd RCT - arbenigwyr profiadol sy'n gweithio gyda busnesau twf uchel ledled Cymru - yn rhannu eu prif argymhellion. Mae'r adnoddau hyn wedi'u dewis yn ofalus i'ch helpu chi i arwain gyda hyder, tyfu gyda phwrpas, a manteisio ar gyfleoedd newydd wrth lywio'r heriau sy'n unigryw i'ch busnes.
Y mis hwn, mae Geraint Hughes, Rheolwr Perthnasoedd RCT ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, yn rhannu ei brif ddewisiadau. Gyda ffocws cryf ar ddeallusrwydd emosiynol, mewnwelediad diwylliannol, a dealltwriaeth economaidd leol, mae ei argymhellion yn cynnig offer ymarferol ar gyfer adeiladu timau cryfach a busnesau mwy gwydn yng Nghymru.
1. Podlediad: Penny For Your Thoughts - Podlediad Ysgol Fusnes Bangor
Pam mae’n ffefryn
Mae Penny for Your Thoughts yn pontio'r bwlch rhwng mewnwelediad academaidd a realiti busnes, ac yn dod â meddwl ffres i'r cwestiynau mawr y mae arweinwyr busnesau sy'n tyfu yn eu hwynebu. Mae'r podlediad hwn, a gyflwynir gan Darren Morley (y mae ei brofiad aml-sector yn cadw sgyrsiau ar sail gadarn), yn cyfuno ymchwil arbenigol â pherthnasedd yn y byd go iawn.
Beth ddysgwch chi
- Sut mae arweinyddiaeth, marchnata digidol, a’r broses o wneud penderfyniadau yn esblygu
- Strategaethau ar gyfer ymgysylltiad gweithwyr, datblygiad sefydliadol, ac ymddygiad cwsmeriaid
- Straeon gonest gan weithwyr proffesiynol sy’n gwneud effaith mewn AD, cyfathrebu, a thu hwnt
Penodau i roi cynnig arnyn nhw
- Siobhan Johnson (Ymgynghorydd AD): Ar arweinyddiaeth, newid diwylliant, a thyfu busnesau â strategaethau sy’n rhoi pobl yn gyntaf
- Claire Quinton Tulloch (First Bus): Ar adrodd straeon brand, mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, a llywio cyfathrebu ar raddfa genedlaethol
- Yn ogystal â chanfyddiadau arbenigol gan academyddion o Fangor megis Dr Clair Doloriert ar ymarfer arweinyddiaeth, Dr Steffan Thomas ar farchnata digidol BBaChau, a Dr Georgina Smith ar wneud penderfyniadau ymddygiadol
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Mae’r podlediad yn mynd i’r afael â’r cwestiynau efallai na fyddech chi’n eu gofyn mewn ystafell fwrdd, ond dylech chi. Gyda gwesteion sy'n gwybod y theori a gwesteion sy'n byw yr ochr ymarferol, mae'n hanfodol gwrando ar arweinwyr sy'n barod i feddwl yn ddyfnach a gweithredu'n glyfrach.
2. Podlediad: C’mon Cymraeg – ARFOR
Pam mae’n ffefryn
Wedi'i chynhyrchu gan ARFOR - menter ar y cyd gan gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn -mae C’mon Cymraeg yn archwilio sut y gall datblygu economaidd ac entrepreneuriaeth gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg. Mae’r podlediad Cymraeg hwn yn plymio’n ddwfn i sut mae iaith, lle, a busnes yn gorgyffwrdd.
Beth ddysgwch chi
- Sut gall iaith gryfhau hunaniaeth brand a theyrngarwch cwsmeriaid
- Heriau datblygiad gwledig a chadw pobl ifanc
- Atebion creadigol gan entrepreneuriaid Cymreig go iawn
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Mae'n herio meddwl confensiynol am iaith yn rhwystr ac yn dangos sut y gall hi hwyluso twf. Mae hwn yn neges ysbrydoledig i atgoffa busnesau sydd wedi'u gwreiddio yng Nghymru y gall diwylliant a masnach fynd law yn llaw.
3. Llyfr: Emotional Intelligence gan Daniel Goleman
Pam mae’n ffefryn
Mae tyfu busnes yn golygu mwy na strategaeth, mae’n golygu pobl. Mae llyfr poblogaidd Goleman yn datgelu gwyddoniaeth emosiynau a sut maen nhw'n llunio ein penderfyniadau, ein hymddygiadau a'n perfformiad.
Beth ddysgwch chi
- Rôl pensaernïaeth ymennydd ym maes meddwl emosiynol a rhesymegol
- Sut y gallwch chi ddatblygu deallusrwydd emosiynol (EQ) dros amser
- Ffyrdd ymarferol o adeiladu timau cryfach, sydd wedi eu gyrru gan bwrpas
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Mae doniau ac angerdd yn bwysig ond mae angen eu meithrin nhw. Mae'r llyfr hwn yn datgelu pam mae EQ yr un mor hanfodol ag IQ yn y byd busnes heddiw, yn enwedig wrth dyfu tîm perfformiad uchel.
Cyflymwch eich arweinyddiaeth gyda chymorth RCT
Yn barod i roi’r canfyddiadau hyn ar waith? Mae ein tîm RCT yma i'ch helpu chi i ddatblygu'r strategaethau a'r meddylfryd sydd eu hangen i dyfu'ch busnes. Cysylltwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd heddiw i gymryd y cam nesaf tuag at lwyddiant.