Nid rhywbeth i’r cewri technegol yn unig yw AI erbyn hyn. Mae'n offeryn pwerus, ymarferol ar gyfer busnesau e-fasnach bach a chanolig os ydych chi'n barod amdano. Gyda'r sylfaen gywir, gall AI eich helpu i weithio'n fwy clyfar, syfrdanu'ch cwsmeriaid, a gyrru tyfiant gwerthiant difrifol.

Dyma bum ffordd brofedig o ddechrau defnyddio AI heddiw a diogelu eich busnes e-fasnach ar gyfer y dyfodol.

1. Gwnewch eich data’n barod ar gyfer offer AI mwy clyfar

Bydd sut mae eich data wedi eu strwythuro heddiw yn llunio sut y byddwch chi’n tyfu yfory. Yn ystod y 12-18 mis nesaf, bydd offer AI megis Copilot a ChatGPT yn gallu dadansoddi eich data busnes yn rheolaidd, sylwi ar dueddiadau, datgelu cyfleoedd twf, ac awgrymu cynhyrchion neu wasanaethau newydd.

Ond dyma'r fagl: bydd y canfyddiadau hynny allan o gyrraedd os nad yw eich data wedi eu storio'n hygyrch ac yn ddiogel.

Nawr yw’r amser i weithredu. Er enghraifft, mae cysylltu eich Google Search Console (sy'n olrhain yr allweddeiriau y mae cwsmeriaid yn eu defnyddio i ddod o hyd i chi) â llwyfan storio data megis Google BigQuery neu Microsoft Azure yn caniatáu ichi gasglu a chadw'r data hwnnw i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Heb y cam hwn, bydd llawer o’r mewnwelediad gwerthfawr hwn yn diflannu.

Pan fydd y data hyn wedi eu storio, gall offer AI eu dadansoddi nhw mewn eiliadau. Byddwch yn barod i ddarganfod tueddiadau cudd, sylwi ar alw cwsmeriaid nad oes neb wedi ymateb iddo eto, a datblygu strategaethau mwy clyfar yn awtomatig.

Bydd y seiliau a osodwch heddiw yn rhoi min cystadleuol i chi yfory. Felly peidiwch ag aros.

2. Prisio mwy clyfar mewn amser go iawn gydag AI

Gall prisiau sicrhau neu ddifa gwerthiant. Mae offer prisio sydd wedi'u gyrru gan AI yn caniatáu ichi addasu prisiau mewn amser go iawn yn seiliedig ar dueddiadau marchnad byw, prisiau cystadleuwyr, ac ymddygiad cwsmeriaid. Hynny yw, dim rhagor o ddyfalu a dim rhagor o brisiau statig. Dim ond strategaethau deinamig, clyfar sy’n cynyddu elw ac sy’n eich helpu chi i barhau ar y blaen.

Un enghraifft rymus yw Merchant Centres Google a Microsoft. Dyma offer anhepgor i chi os ydych chi’n rhedeg siop e-fasnach. Bellach mae’n cynnwys galluoedd prisio deinamig, gan ddefnyddio AI i argymell ac addasu prisiau eich cynnyrch yn seiliedig ar yr hyn sy'n digwydd yn eich marchnad chi.

Beth yw’r canlyniad? Rydych chi’n parhau’n gystadleuol heb orfod mewnbynnu gwybodaeth yn barhaus â llaw. Ac mae’ch elw’n cynyddu wrth i’ch tîm barhau i ganolbwyntio ar dyfiant.

3. Awtomeiddio gwasanaeth cwsmeriaid heb golli’r wedd ddynol

Mae cyflymder yn bwysig yng ngwasanaethau cwsmeriaid, ac mae AI yn helpu i ddarparu hyn ar raddfa uchel. Gall sgwrsfotau wedi'u pweru gan AI drin hyd at 50% o ymholiadau cwsmeriaid cyffredin, gan ddarparu atebion cywir ar unwaith a lleihau amseroedd ymateb yn ddramatig.

Mae busnesau sy'n defnyddio offer megis ChatGPT neu Tidio yn llwyddo i ddatrys materion mewn llai nag 1 funud, gan hybu boddhad cwsmeriaid a chynyddu cyfraddau trosi. Mae’r offer hyn yn hawdd i’w gweithredu ac yn cydblethu’n ddidrafferth â’ch systemau cymorth presennol.

Ar ben hynny, mae awtomeiddio yn rhyddhau eich tîm dynol i ganolbwyntio ar ymholiadau cymhleth, gwerth uchel, lle empathi ac arbenigedd sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Nid yw'n golygu disodli pobl; mae'n golygu grymuso eich busnes chi i wasanaethu rhagor o gwsmeriaid yn gynt ac yn well.

Os yw eich busnes chi’n tyfu ac ymholiadau cwsmeriaid yn pentyrru, hwn yw un o'r buddsoddiadau craffaf y gallwch chi ei wneud.

4. AI sy’n gwarchod eich prosesau busnes

Meddyliwch am AI fel eich ci gwarchod gweithredol. Os yw AI wedi'i ymgorffori yn eich llifoedd gwaith, gall ganfod problemau ar unwaith, tynnu sylw at anghysondebau, a diogelu prosesau critigol. Mae’r gwaith monitro hwn mewn amser go iawn ym hybu effeithiolrwydd ac yn lleihau gwallau costus cyn iddyn nhw ddod yn broblemau.

5. Archwilio a gwella eich catalog cynhyrchion

Mae cynnwys yn gwerthu, a gall AI eich helpu chi i wneud hynny’n well. Defnyddiodd un cleient ChatGPT i adolygu 3,000+ o ddisgrifiadau cynnyrch, gan sicrhau eu bod nhw’n gyson â’r brand a chystal ag y gallent fod ar gyfer trosiadau.

Mae archwiliadau AI rheolaidd yn cadw’r cynnwys am eich cynnyrch yn fachog, yn gywir, ac yn ddiddorol heb i hynny fynd yn dreth ar eich tîm.

Ydych chi’n barod i archwilio sut gall AI drawsnewid eich strategaeth e-fasnach?
Mae pob busnes yn wahanol, a does dim un dull sy’n addas i bawb. Os ydych chi'n chwilfrydig am AI neu'n arbrofi eisoes, gall cymorth RCT eich helpu chi i ddefnyddio'r offer hyn yn y ffordd gywir ar gyfer eich busnes. 

Siaradwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd RCT heddiw i helpu i ddatgloi eich cyfnod tyfiant nesaf.

Share this page

Print this page