Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd mwy na chwarter yr oedolion sy'n gweithio ym Mhrydain Fawr yn gweithio’n hybrid yn hydref 2024. Mae'r newid hwn yn gyfle sylweddol i fusnesau twf uchel wella ymgysylltiad, rhoi hwb i gynhyrchiant, a meithrin gweithle mwy cynhwysol.

Mae gweithlu heddiw yn prisio hyblygrwydd, llesiant, a chydbwysedd cryf rhwng bywyd a gwaith. Mae model hybrid sydd wedi'i strwythuro'n dda yn gwella boddhad gweithwyr a’u cyfraddau cadw ac yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n darparu mwy o hygyrchedd i weithwyr ag anableddau, yn galluogi gofalwyr i gydbwyso cyfrifoldebau, ac yn darparu ar gyfer arsylwadau crefyddol—a’r cyfan wrth greu gweithlu mwy ystwyth a gwydn.

Ers 6 Ebrill 2024, mae gweithio hyblyg wedi bod yn hawl cyflogaeth 'o’r cychwyn', gan roi mwy o ryddid i weithwyr ofyn am drefniadau hybrid. Er mwyn aros ar y blaen, rhaid i fusnesau integreiddio strategaethau hybrid yn rhagweithiol sy'n gyrru ymgysylltiad, cefnogi anghenion gweithwyr, a rhoi eu sefydliadau mewn sefyllfa i lwyddo yn y tymor hir.

Dyma ein cyngor gorau ar reoli gwaith hybrid yn effeithiol:

Pum strategaeth allweddol i hybu ymgysylltiad mewn timau hybrid

  1. Adeiladu diwylliant hybrid cryf
  2. Arwain drwy esiampl
  3. Buddsoddi yn y dechnoleg gywir
  4. Blaenoriaethu dysgu a datblygu
  5. Cefnogi llesiant gweithwyr

Mae gweithlu hybrid ffyniannus yn dechrau gyda diwylliant wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, hyblygrwydd, a chyfathrebu clir. Rhaid i arweinwyr fynd ati i hyrwyddo gweithio hybrid yn ddull cadarnhaol a sicrhau bod gweithwyr o bell yn teimlo eu bod yr un mor werthfawr ag eraill. Dylid herio unrhyw agweddau negyddol neu sylwadau diystyriol am weithio hyblyg i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol.

Arweinwyr sy’n gosod y cywair i weithwyr. Os ydych chi am i'ch tîm gofleidio gweithio hybrid a pharhau’n weithgar, mae angen i chi ddangos ei fanteision eich hun. Strwythurwch eich amserlen i adlewyrchu cydbwysedd iach rhwng gwaith yn y swyddfa a gweithio o bell i ddangos bod gweithio hyblyg nid yn unig yn cael ei ganiatáu ond hefyd ei annog.

I weithio’n hybrid mae angen mwy na dim ond gliniadur a ffôn clyfar. Rhaid i fusnesau sicrhau bod gan weithwyr fynediad at dechnoleg ddiogel, perfformiad uchel, offer cydweithredu, a llwyfannau cyfathrebu sy'n galluogi llif gwaith di-dor. Bydd buddsoddi yn y systemau cywir yn gyrru effeithlonrwydd, atal rhwystredigaeth, a chadw cysylltiad rhwng timau.

Gyda llai o gyfleoedd dysgu anffurfiol mewn lleoliad hybrid, rhaid i fusnesau fynd ati’n rhagweithiol i gefnogi twf gweithwyr. Darparwch hyfforddiant o bell, mentora, ac adborth amser real i sicrhau bod aelodau'r tîm yn parhau i ddatblygu eu sgiliau. Bydd cydnabod cyflawniadau a chynnig llwybrau dilyniant gyrfa clir hefyd yn helpu i gynnal cymhelliant.

Dylai model hybrid llwyddiannus flaenoriaethu llesiant gweithwyr. Gall cynnig buddion megis Rhaglen Cymorth i Weithwyr, aelodaeth campfa, neu Gynorthwywyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wella boddhad swydd cyffredinol. Trwy fynd ati i hyrwyddo'r adnoddau hyn, gall busnesau sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael cymorth ble bynnag y maen nhw'n gweithio.

Mae cofleidio gweithio hybrid yn fantais strategol ar gyfer denu a chadw’r doniau gorau wrth barhau’n gystadleuol mewn tirwedd fusnes sy'n esblygu'n gyflym. Trwy gefnogi gweithwyr yn weithredol a meithrin diwylliant tîm cadarnhaol sy'n blaenoriaethu hyblygrwydd a chydbwysedd gwaith-bywyd, gall eich sefydliad ddatgloi potensial llawn gweithlu hybrid, gan hybu ymgysylltiad, cynhyrchiant a llwyddiant hirdymor.

Darllen pellach: Adnoddau arbenigol ar weithio hybrid

Archwiliwch yr adnoddau gan Acas, y CIPD, ar gyfer canfyddiadau pellach ac arweiniad ar weithio hybrid.

Cymorth wedi’i deilwra: Hyfforddiant AGP ar gyfer llwyddiant hybrid

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) yma i gefnogi'ch busnes i wneud gweithio hybrid yn llwyddiant. Mae pecynnau hyfforddi wedi'u teilwra ar gael i'ch helpu i ddatblygu polisi gweithio hybrid, rheoli ceisiadau gweithio hyblyg, ac adeiladu diwylliant cynhwysol, perfformiad uchel. Cysylltwch â'ch Rheolwr Perthnasoedd AGP heddiw i archwilio sut y gallwn eich helpu i optimeiddio eich strategaeth hybrid a gyrru llwyddiant hirdymor.

Digwyddiad i ddod: Meistroli gweithio hybrid yn ein dosbarth meistr AGP wyneb-yn-wyneb

Ymunwch â'n dosbarth meistr AGP, "Pobl, Prosesau ac Ystyriaethau i Wneud yn Fawr o Weithio Hybrid," ddydd Mawrth, 6 Mai 2025 yn Abertawe. Dysgwch ganfyddiadau ymarferol ar optimeiddio gwaith hybrid ar gyfer ymgysylltu, cynhyrchiant a chynhwysiant.

Cofrestrwch nawr!

https://go.newable.co.uk/agpeventregistration/Pobl_a_Prosesau_060525

Share this page

Print this page