Mae cyflogwyr yng Nghymru wedi cydnabod ers cryn amser yr angen i hybu a chefnogi iechyd a llesiant eu gweithwyr, gan cynnwys cadw cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a dilyn ffordd iach o fyw.
Mae manteision mynd i’r afael â llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol gweithwyr yn cynnwys:
- llai o salwch ac absenoldeb
- cynyddu cynhyrchiant
- ansawdd y gwaith yn gwella
- gwell ymgysylltiad ar ran staff
- llai o drosiant ymhlith staff
Mae gweithwyr sy’n cael eu cefnogi i gymryd rhagor o reolaeth dros eu llesiant eu hunain yn elwa ar y canlynol:
- teimlo llai o straen
- mwy o gymhelliant
- ysbryd yn well
- mwy o foddhad o'u gwaith
- mwy ymwybodol o lesiant eu cydweithwyr
Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yma yn darparu canllawiau, offer a chymorth ichi fynd ati i sefydlu a datblygu diwylliant llesiant eich busnes, ac i gynnwys gweithwyr yn y drafodaeth ynghylch iechyd yn y gweithle.
Perthnasol
Y newyddion diweddaraf am y cynnydd sydd wedi’i wneud yng Nghymru tuag at gyflawni’r 7 nod llesiant.
Mae'r Mynegai Llesiant yn y Gweithle yn galluogi cyflogwyr i ddathlu'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud i hybu llesiant meddyliol staff, ac i gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i wneud hyn yn well eto.
Er fod gweithio'n aml yn gwneud daioni i iechyd a llesiant unigolyn, mae ffactorau yn y gweithle sy'n gallu cael effaith ar iechyd a llesiant staff.
Gwybodaeth i fusnesau a chyflogwyr yn ymwneud â gwaith teg ac iechyd a llesiant yn y gweithle.
Gall cyflogwyr fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chanllawiau arfer da i helpu i wella'r ffordd y maent yn rheoli iechyd a lles yn y gweithle.
Y pedwerydd arolwg blynyddol ar bymtheg gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, yn archwilio tueddiadau ac arferion ym meysydd iechyd, llesiant a rheoli absenoldeb yng ngweithleoedd y DU.
Cyngor ynghylch amrywiaeth eang o ddulliau i hybu llesiant.
Bydd nifer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i ddangos cynnydd yng Nghymru o ran mwy nac un o'r Nodau Llesiant.
Y Nodau Datblygu Cynaliadwy yw'r patrwm ar gyfer creu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb.