Gyflogi Ieuenctid

Yma yn Busnes Cymru, rydym yn deall bod nifer o rwystrau wrth ymgysylltu â phobl ifanc, a’u recriwtio a’u cadw yn y gweithle mewn byd ar ôl Covid, nid yn unig o’ch ochr chi, ond o’u hochr hwythau hefyd.

Bydd y tudalennau hyn yn eich helpu i nodi’r hyn sydd ei angen arnoch i fynd i’r afael â’ch proses recriwtio a denu, a’i newid, er mwyn eich galluogi i ymgysylltu â phobl ifanc ar gyfer eich sefydliad. Rydym yn cydweithio â sefydliadau allweddol yng Nghymru i gynnig cyngor, awgrymiadau ac enghreifftiau ichi, ynghyd â derbyn cymorth i’ch tywys drwy'r newidiadau.

Ar ôl nodi’r heriau a’r rhwystrau maent wedi’u hwynebu yn ddiweddar, mae perchnogion busnes ledled Cymru’n newid eu dull o ymgysylltu â phobl ifanc.

Cymerwch gip ar yr astudiaethau achos isod i weld a oes unrhyw beth allwch chi ei fabwysiadu, er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc, a’u recriwtio i’ch busnes.

Er mwyn helpu eich busnes i ddeall sut allant gefnogi pobl ifanc i ymgymryd â rolau a dod yn aelod cynhyrchiol o’ch tîm, rydym wedi casglu cyfres o offer a gwybodaeth i fynd i’r afael â’r prif feysydd lle mae BBaChau’n wynebu heriau.

Cliciwch ar bob adran isod er mwyn archwilio sut all y wybodaeth hon helpu eich busnes i gyflogi pobl ifanc:



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.