Er mwyn i gyflogwyr wneud newidiadau i'r ffordd maent yn ymgysylltu â phobl ifanc, a'u recriwtio a’u cadw o fewn eu busnes, mae’n bwysig bod busnesau’n deall pa rwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ran cyflogaeth, a pa fuddion mae pobl ifanc yn eu cynnig i’r gweithle.
Mae Busnes Cymru wedi gweithio â llu o bartneriaid ledled Cymru er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o’r heriau hynny, a fydd yn eich galluogi i nodi’r newidiadau allwch chi eu rhoi ar waith a'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud hynny.
Cymerwch gip ar bob ffilm i glywed am yr heriau amrywiol mae pobl ifanc yn eu hwynebu, a’r hyn maent yn chwilio amdano er mwyn cael eu cyflogi.