Darparu prentisiaethau yng Nghymru

Darparu prentisiaethau yng Nghymru

Mae'r Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion busnesau Cymru a'r economi ehangach. Fe'i cynlluniwyd i gynyddu lefelau sgiliau mewn meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys lle yr adroddwyd bod yna brinder.

Ein ymrwymiad

Datblygwyd y polisi a'i gynllun gweithredu pum mlynedd mewn ymgynghoriad â busnesau, ac mae'n egluro sut y byddwn yn cefnogi cyflenwi'r ymrwymiad a wnaed yn ei maniffesto ac yn Symud Cymru Ymlaen:

  • Cynyddu'r nifer o brentisiaid 16-19 oed drwy gynyddu'r niferoedd sy'n dewis mynd i brentisiaethau ansawdd uchel wrth adael yr ysgol
  • Mynd i'r afael â phrinder sgiliau drwy ddatblygu prentisiaethau yn benodol mewn sectorau twf a sectorau sy'n datblygu fel TGCh, Peirianneg, Adeiladu a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Datblygu sgiliau lefel uwch drwy ganolbwyntio ar brentisiaethau ar lefel 4 ac uwch lle mae'r canlyniadau'n tueddu i fod yn uwch
  • Datblygu llwybrau sgiliau drwy integreiddio prentisiaethau i'r system addysg ehangach a'i gwneud yn haws i rywun fynd i brentisiaeth drwy lwybr dysgu arall.

Ardoll Brentisiaethau

Mae’r Ardoll Prentisiaethau yn dreth gyflogaeth ledled y DU sydd wedi cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU ac a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2017. Mae’r Ardoll yn berthnasol i’r DU i gyd, a bydd yn rhaid i gyflogwyr sydd â ‘bil cyflogau’ blynyddol o £3 miliwn neu ragor dalu’r Ardoll.

Bydd yn cael ei chasglu ar draws y DU gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.