P'un a ydych chi'n Fusnes Bach a Chanolig (BBaCh) sefydledig neu'n entrepreneur gyda syniad busnes sydd â photensial mawr i dyfu, mae'r Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) yn cynnig y bobl, y mewnwelediad a'r offer i'ch tywys trwy gamau allweddol tyfu eich busnes.
O arloesi i fuddsoddi, allforio i eiddo deallusol, ehangu safle, recriwtio a thu hwnt, mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn cynnig cyfuniad unigryw o arbenigedd, adnoddau a chymorth wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion penodol busnesau sy'n ehangu'n gyflym.
- Mae Rheolwr Cysylltiadau ymroddedig yn cyfrannu gwybodaeth fanwl o'r ecosystem twf busnes; ac yn gweithredu fel ffrind beirniadol sy'n darparu cyngor ac arweiniad un-i-un arbenigol sy'n benodol i'ch anghenion busnes.
- Mae Hyfforddwyr Twf Uchel, yn darparu cyngor arbenigol yn y meysydd sydd eu hangen arnoch fwyaf, gan eich helpu i gynyddu trosiant, adeiladu tîm perfformiad uchel, a chael mynediad at farchnadoedd rhyngwladol.
- Dosbarthiadau meistr a gweminarau dan arweiniad arbenigwyr i'ch helpu i wella'ch sgiliau a gwella arferion busnes.
- Cyfeiriadau gwerthfawr o fewn ein hecosystem i arbenigwyr arloesi, cyllid ac allforio ochr yn ochr â digwyddiadau penodol i'r sector.
- Cyfleoedd i gysylltu â rhwydwaith pwerus o arweinwyr diwydiant ledled Cymru a chodi eich proffil trwy gysylltiadau cyhoeddus wedi'u targedu a sylw yn y cyfryngau.
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o gymuned ffyniannus o fusnesau arloesol a deinamig sy'n sbarduno dyfodol economaidd Cymru.
Sut i ddechrau arni
Dechrau Arni. Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gefnogaeth sydd ei hangen ar eich busnes, fel y gallwn eich paru â'r cymorth cywir
Cofrestru. Rhowch fanylion amdanoch chi a'ch busnes i helpu i deilwra'r cymorth a'r adnoddau a gynigir.
Bwrw ati. Dechreuwch eich taith Busnes Cymru a chael mynediad i'n gweminarau, ein hoffer a'n cyngor arbenigol