Cyfarwyddyd

Strategaeth Eiddo Deallusol

Mae Eiddo Deallusol yn bwysig i nifer o fusnesau. Mae'r adran hwn yn taro golwg ar sut mae eiddo deallusol yn berthnasol i’ch busnes a sut mae datblygu strategaeth eiddo deallusol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 June 2014
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae Eiddo Deallusol yn bwysig i nifer o fusnesau. Mae'r adran hwn yn taro golwg ar sut mae eiddo deallusol yn berthnasol i’ch busnes a sut mae datblygu strategaeth eiddo deallusol.

 

2. Strategaeth Eiddo Deallusol

Nawr eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol fathau o eiddo deallusol, mae’n amser ystyried sut mae eiddo deallusol yn berthnasol i’ch busnes.

Er mwyn gwneud hyn, edrychwch ar eich amgylchedd eiddo deallusol. A oes eiddo deallusol yn eich diwydiant chi? Sut mae eich cystadleuwyr yn defnyddio eiddo deallusol?

Beth mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl?

  • os byddwch chi’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau i'r defnyddiwr, pa mor bwysig yw’ch brand? Petai cystadleuydd yn dechrau gwerthu cynhyrchion ag enw neu logo tebyg i’ch un chi, sut byddai hynny’n effeithio ar eich busnes? Os yw hyn yn bwysig i chi, yna dylai’ch strategaeth eiddo deallusol gynnwys cofrestru nodau masnach eich brandiau
  • a yw eich marchnad yn y DU yn unig, neu a ydych chi’n allforio? Os ydych chi’n allforio, neu’n ystyried allforio o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yna dylai’ch strategaeth eiddo deallusol gynnwys gwneud yn siŵr bod y brandiau rydych chi am eu defnyddio ar gael i chi eu defnyddio yn Ewrop yn ogystal â’r DU
  • ydych chi am drwyddedu eich cynhyrchion neu’ch prosesau? Os felly, bydd angen i’ch strategaeth roi sylw i hyn. Mae’n llawer haws trwyddedu hawliau cofrestredig na hawliau heb eu cofrestru
  • a oes angen denu arian allanol arnoch chi, e.e. cyfalaf menter? Os felly, gallai fod yn hanfodol i chi gael rhywfaint o eiddo deallusol cofrestredig, e.e. portffolio o batentau
  • os ydych chi am ddibynnu ar gyfrinachedd, rhaid i chi wneud yn siŵr bod Cytundebau Dim Datgelu cadarn ar waith o’r dechrau
  • os ydych chi’n bwriadu gadael y busnes ymhen ychydig flynyddoedd, efallai y bydd angen i chi ddatblygu portffolio eiddo deallusol cadarn er mwyn i’ch busnes ddenu darpar brynwr
  • ydych chi'n dymuno cael bywyd tawel ac osgoi cael eich erlyn? Os felly, gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n tresmasu ar eiddo deallusol unrhyw un arall drwy ddefnyddio'u nod masnach, a drwy chwilio patentau cyn cyflwyno cynnyrch newydd

Pan fyddwch chi wedi penderfynu ar eich strategaeth eiddo deallusol, rhowch y strategaeth honno ar waith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodiadau am yr holl gamau a phenderfyniadau rydych chi’n eu cymryd a rhowch nodyn yn eich dyddiadur i daro golwg ar y strategaeth o leiaf unwaith y flwyddyn, neu’n amlach os yw’ch amgylchiadau’n newid (er enghraifft, os byddwch chi’n cyflogi staff newydd, yn mynd i farchnadoedd newydd, yn datblygu cynnyrch newydd, ac ati).

Mae angen i’ch strategaeth eiddo deallusol fod yn gyfredol ac yn berthnasol i’ch busnes.

Defnyddiwch y templed hwn i baratoi’ch strategaeth eiddo deallusol (MS Word 11kb).

Erbyn diwedd y modiwl hwn, byddwch yn:

  • deall pam mae diogelu'ch syniadau mor bwysig
  • gwybod pa eiddo deallusol sy’n berthnasol i chi ac i’ch busnes
  • gwybod sut mae gwneud chwiliad patent syml ar gyfer eich syniad arloesol
  • gwybod sut mae diogelu’ch gwaith, eich enwau brand, eich logos a’ch dyluniadau
  • meddu ar ddull cam wrth gam ar gyfer diogelu’r eiddo deallusol yn eich syniadau.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.