SIOE AWYR RYNGWLADOL FARNBOROUGH 2024

Pob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn mynychu cynadleddau, digwyddiadau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yma yng Nghymru, y DU a ledled y Byd i hyrwyddo Cymru a'i busnesau yng Nghymru. 

Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gymryd rhan gyda ni o dan faner Cymru. 

Mae pob cyfle yn amodol ar broses ymgeisio.  Mae'r manylion ar gyfer y digwyddiad nesaf i'w gweld isod:

Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough

Mae Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough 2022 (FIA22) yn ddigwyddiad mawr yn y calendr awyrofod ac amddiffyn.  Caiff ei chynnal bob dwy flynedd, ac mae’n tynnu sylw at y cyfleoedd masnachol sydd ar gael mewn diwydiant gwerth £14.8bn i economi'r DU, gan ganolbwyntio ar farchnadoedd y DU, Ewrop ac UDA.

Mae FIA2024 yn cysylltu cydweithwyr, busnes, a'r llywodraeth gyda'r nod o alluogi twf ac adferiad busnes yn y diwydiant awyrofod ac amddiffyn.

Pam Mynychu?
Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni, ennill  ysylltiadau gwerthfawr a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.

Bydd Pafiliwn Cymru 80.5m² yn Neuadd 1, gyda lle i hyd at 10 o arddangoswyr a nifer o ymwelwyr.

Cynnig Arddangoswr - £2,000 + TAW

  • pod arddangos pwrpasol ar bafiliwn Cymru gyda phanel graffeg, cwpwrdd, cyflenwad pŵer a mynediad i storfa
  • mynediad i fan cyfarfod ar stondin
  • o leiaf un pas arddangoswr drwy gydol y digwyddiad
  • cael eich cynnwys mewn deunydd marchnata lle mae ar gael a cael eich cynnwys mewn digwyddiadau rhwydweithio cysylltiedig
  • Cais am gyfarfodydd gyda dirprwyaethau sifil a milwrol y DU a rhyngwladol
  • ymgysylltu â busnesau allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y digwyddiad, gan gynnwys eich cyd-bartneriaid ar y stondin
  • cael eich cynnwys yn amserlen cyfryngau cymdeithasol Cymru a chyfle posibl ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus
  • bydd gweithwyr profiadol ym maes digwyddiadau a marchnata yn gofalu am logisteg y stondin yn gyfan-gwbl 

Os ydych chi’n bwriadu mynychu’r Sioe Awyr yn annibynnol, gallwch ddefnyddio stondin Cymru fel man cyfarfod*, ail-lenwi’ch technoleg, a chwrdd â thîm Llywodraeth Cymru, Fforwm Awyrofod Cymru a Gofod Cymru.

*yn amodol ar argaeledd


Manylion y Digwyddiad

Enw y digwyddiad:
Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough 2024

Lleoliad:
Canolfan Arddangos a Chynadledda Ryngwladol Farnborough, Lloegr

Dyddiad:
22-26 Gorffennaf 2024

Maint y Digwyddiad:
1,500 o arddangoswyr, 75,000 o ymwelwyr o 96 o wledydd.
Bydd gan stondin Cymru le i hyd at 10 o arddangoswyr a nifer o ymwelwyr.

Sector(au):
Awyrofod ac Amddiffyn, y Gofod, Seiber, Arloesi

Beth i’w wneud nesaf?
Lawrlwythwch y ffurflen gais, ei llenwi a’i dychwelyd at ITD.Events@llyw.cymru

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau:
16.00, 23 Ebrill 2024

Adnoddau
Dod i wybod mwy ar:

Gwefan
farnboroughairshow.com

X
@FIAFarnborough

Facebook
@FarnboroughAirshow

LinkedIn
farnborough-international-ltd

I weld digwyddiadau a chyfleoedd allforio eraill, gweler tudalen Digwyddiadau Tramor Busnes Cymru Digwyddiadau tramor | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.