Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT)

Mae gan Lywodraeth Cymru aelodaeth gorfforaethol gyda Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Trwy aelodaeth ILP Llywodraeth Cymru, gall unrhyw fusnes, entrepreneur neu fusnes cyn refeniw sydd â sylfaen weithredu yng Nghymru wneud y canlynol: -

  • Cael mynediad at sylfaen wybodaeth MIT o ymchwil, cyhoeddiadau a chynnwys fideo trwy wefan pwrpasol ILP MIT
  • Mynychu a chael mynediad am ddim i gynadleddau MIT
  • Mynychu digwyddiadau Llywodraeth Cymru a drefnir gyda chyfadran MIT sy'n ymweld
  • Mynychu Cynadleddau ILP MIT yn y cnawd a gwneud cais am grant Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda chostau teithio a llety (gweler isod am ragor o wybodaeth)

MIT ILP text logo

Y Rhaglen Cyswllt Diwydiannol

Mae ILP yn fecanwaith ar gyfer ymgysylltu a chydweithredu â busnesau a ddefnyddir gan MIT i feithrin rhwydweithiau a datblygu cysylltiadau â busnesau ledled y byd.

Gellir defnyddio ILP i fanteisio ar gyfoeth o wybodaeth sydd gyda'r gorau yn y byd trwy fynediad at aelodau cyfadrannau yn ogystal â rhwydwaith ehangach ILP o gwmnïau ar raddfa fyd-eang.

Mae partneriaeth Llywodraeth Cymru ag ILP MIT yn cynnig cyfle heb ei ail i fusnesau Cymru gysylltu ag un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd.

Os ydych chi'n gorfforaeth fawr neu'n fusnes sefydledig sy'n ceisio parhau i fod yn gystadleuol ac arloesol, neu os ydych chi'n BBaCh sy'n ceisio ehangu a gwella eich gweithrediadau, gallwch elwa drwy aelodaeth ILP Llywodraeth Cymru. Mae mynediad hefyd ar gael i entrepreneuriaid a busnesau newydd sy'n ceisio cyflymu llwybr twf a thimau ymchwil a datblygu mewn busnesau, prifysgolion a sefydliadau ymchwil.


Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT)

Mae Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn cael ei gydnabod yn fyd-eang fel un o'r sefydliadau ymchwil ac academaidd mwyaf blaenllaw yn y byd.

Mae'n anelu at ‘hybu gwybodaeth a pharatoi myfyrwyr ym maes gwyddoniaeth, technoleg a meysydd astudio eraill a fydd o'r budd gorau i'r genedl a'r byd heddiw’.

Argaeledd Grant
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig nifer cyfyngedig o grantiau ariannol i gyfrannu tuag at deithiau awyr a llety i gynrychiolwyr sy'n mynychu cynadleddau neu ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ILP MIT sy'n digwydd y tu allan i'r DU. Ar gyfer yr ymgeisydd neu'r ymweliad cyntaf, mae'r grant yn talu hyd at 50% o'r costau gwirioneddol neu £1000 (pa un bynnag yw'r swm lleiaf) tuag at deithiau awyr a/neu lety yn unig. Byddwch chi'n gyfrifol am yr holl gostau eraill, gan gynnwys trosglwyddiadau, Visa/ESTA, bwyd ac adloniant. Gall ail gynrychiolydd o'r un sefydliad hefyd wneud cais i fynychu a chael hyd at 25% neu £500 (pa un bynnag yw'r swm lleiaf) tuag at deithiau awyr a/neu lety yn unig. Byddwch chi'n gyfrifol am yr holl gostau, gan gynnwys trosglwyddiadau, Visa/ESTA, bwyd ac adloniant.  

Sylwch fod proses ymgeisio gystadleuol ar gyfer y grant a bod gwerth ariannol y cymorth hwn yn cael ei gategoreiddio fel cymhorthdal Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) o dan y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022). Os yw eich cais i ymuno â chynrychiolwyr y gynhadledd yn y cnawd yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen ddatganiad sy'n nodi cyfanswm gwerth y cymorth gwladwriaethol a dderbyniwyd yn ystod y 3 blynedd diwethaf.

I gael rhagor o wybodaeth am ILP ewch i'r wefan Rhaglen Cyswllt Diwydiannol ILP | MIT neu cysylltwch â ni yn Welshgovernmentilpmit@gov.wales

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.