Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota ar Lannau Dyfrdwy yn falch o gyhoeddi lansiad Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota, gan gynnig cymorth i gwmnïau sydd am wneud gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd.
Lle bynnag y bydd cwmni ar ei daith Ddarbodus, gall Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota helpu.
Nod y Rhaglen yw cyflawni gwelliannau mesuradwy o safbwynt cynhyrchiant, drwy rannu a hyfforddi egwyddorion rheoli darbodus.
Wedi'i gyflwyno gan ymarferwyr profiadol Toyota, bydd cyfranogwyr yn cael cymysgedd o:
- Theori ystafell ddosbarth
- Cyfle i ymgolli eu hunain wrth arsylwi llawr siop
- Enghreifftiau o gymhwysiad ymarferol i gyd yn cael eu cyflwyno yng nghyfleuster peiriannau ceir Toyota yng Nglannau Dyfrdwy
- Hyfforddiant ar y safle gwaith yn safleoedd cwmnïau’r cyfranogwyr i’w helpu i wella cynhyrchiant.

Y Rhaglen
Cyflwyniad – Ar gyfer cwmnïau sy’n newydd i’r cysyniad darbodus, cyflwyniad i’r egwyddorion darbodus a Ffordd Toyota drwy sesiynau blasu 1 dydd yng Nglannau Dyfrdwy. Gyda 50% o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd y sesiynau hyn yn costio £199 y person heb gynnwys TAW.
Cychwyn Darbodus - Rhaglen hybrid i gwmnïau sy'n barod i newid sy'n cynnwys 3 diwrnod o hyfforddi yn Toyota Glannau Dyfrdwy ynghyd â 5 diwrnod o gymorth prosiect ymarferol gan hyfforddwr Toyota ar safle eich cwmni eich hun. Ar ôl cymorth o 75% gan Lywodraeth Cymru, y gost fesul cwmni ar gyfer hyd at 3 chynrychiolydd yw £1,983 heb gynnwys TAW.
Darbodus Plws - Mae Darbodus Plws yn darparu 10 diwrnod o gefnogaeth mewn cwmni gan hyfforddwr Toyota a fydd yn helpu i ysgogi ac arwain prosiectau darbodus plws trawsnewidiol. Gyda chymorth o 50% gan Lywodraeth Cymru, cost Darbodus Plws yw £3,625 y cwmni heb gynnwys TAW.
Trawsnewid Darbodus – Mae’r elfen newydd 'hyfforddi'r hyfforddwr' wedi'i chyflwyno i'r rhaglen yn dilyn adolygiad o raglen 2021-24. Gweithgaredd dwys sy'n darparu swyddogaeth gynaliadwyedd llwyr i sefydliadau.
Cysylltu â ni
Am ymholiadau pellach neu i gofrestru eich diddordeb cysylltwch â ni @ TLMP@llyw.cymru
Beth sy'mlaen?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Rhaglen Cychwyn Darbodus Clystyrau Darbodus Toyota, rydym bellach yn recriwtio.
Cychwyn Darbodus – Dyddiad Cychwyn | Cyflwyniad | Digwyddiad Rhwydweithio am ddim |
1 Mai 2025 | 9 Gorffennaf 2025 | De Cymru - 5 Mehefin 2025 |
Hydref 2025 | 21 Hydref 2025 | Gogledd Cymru - 13 Tachwedd 2025 |
Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota Digwyddiad Rhwydweithio
Dewch i glywed straeon cwmnïau sydd wedi cymeryd rhan yn y Rhaglen, yn ogystal â gan Aelodau Canolfan Rheoli Darbodus Toyota; a fydd yn cefnogi'r gweithgaredd, yn rhannu eu profiadau ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â bod yn ddarbodus. Nid oes rhaid talu i fynd i'r Digwyddiad Rhwydwaith.
Astudiaethau Achos
Mae’r holl lwyddiannau a gafwyd drwy Raglen Clystyrau Darbodus Toyota i’w gweld ar ein tudalen Asudiaethau Achos.
Clywch gan rai o'n Cwmnïau Cychwyn Darbodus
Fitzgerald Plant Services Ltd
Mae Fitzgerald Rail & Construction Equipment Services Ltd, yng Nghwmbrân, De Cymru, wedi ennill ei blwyf fel darparwr gwasanaethau arbenigol yn y diwydiannau rheilffyrdd ac adeiladu.
Llwyddiant Clystyrau Darbodus Toyota yn British Rototherm
Gwneuthurwr o Gymru yn llawn canmoliaeth i raglen Clystyrau Darbodus Toyota. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol
Airflo Fishing
Mae Airflo yn cynhyrchu llinyn pysgota o ansawdd uchel, heb PVC, a chynhyrchion pysgota eraill yn eu safle yn Aberhonddu.
Toyota factory
Y Ganolfan Rheoli Darbodus Toyota, tîm o wyth o bobl gyda chyfanswm o 191 mlynedd o brofiad.
yn yr adran hon
Am fwy o wybodaeth am egwyddorion darbodus a Dull Toyota

Mae’r holl lwyddiannau a gafwyd drwy Raglen Clystyrau Darbodus Toyota i'w gweld ar ein tudalen Astudiaethau Achos.
