Galwadau agored am gyllid

Galwadau agored i sefydliadau i wneud ceisiadau am gyllid a chefnogaeth.

Gwahodd Ceisiadau am Gyllid Vinnovate 2025

Bydd Galwad VInnovate 2025 yn agor ar 2 Mai.

Mae VInnovate 2025 yn fodel cyllido a gefnogir gan Fenter Vanguard, sy'n rhaglen gydweithredol sy'n cefnogi moderneiddio ac arloesi diwydiannol trwy gydweithrediad traws-ranbarthol a arweinir gan ddiwydiant.

Darganfyddwch fwy am yr Alwad, gan gynnwys gweld meini prawf cymhwysedd.

Bydd angen i brosiectau llwyddiannus ddatblygu atebion a fydd yn cefnogi:

  • diwydiant craffach - integreiddio technolegau digidol i ddiwydiannau er mwyn creu cyfleoedd newydd a gwella'r rhai presennol
  • diwydiant mwy cynaliadwy - y symudiad tuag at ddiwydiant niwtral i'r hinsawdd
  • diwydiant mwy ymreolaethol - lleihau'r ddibyniaeth ar ranbarthau eraill ar gyfer arloesiadau technoleg dwfn

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn wybodaeth ar-lein ar 6 Mai i glywed mwy am fod yn gymwys a sut i wneud cais.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.