Is-bwnc
Opsiynau Cyllido a Chymorth
Mae Banc Datblygu Cymru yn ariannu busnesau maent yn meddwl fydd o fudd i Gymru a'i phobl. Drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol pan fo’r opsiynau’n edrych yn gyfyngedig, maent yn dod ag uchelgeisiau’n fyw ac yn danwydd posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.
Gwybodaeth cyfrifydd
Mathau o gyllid a sut i wneud cais
Mae angylion busnes yn buddsoddi mewn busnesau yn gyfnewid am gyfran o ecwiti’r busnes. Mae’r rhan fwyaf o angylion busnes yn buddsoddi rhwng £10,000 a £750,000.
Mae’r Start Up Loans Company yn gweithredu ar draws y DU â chefnogaeth y llywodraeth. Mae’r cynllun yn cynnig benthyciadau ad-daladwy i unigolion dros 18 oed sydd â syniad busnes hyfyw ond heb fynediad at gyllid.
Benthyciad yw swm o arian a fenthyciwyd am gyfnod penodol o fewn amser y cytunwyd arno i’w dalu’n ôl. Bydd swm yr ad-daliad yn dibynnu ar faint a hyd y benthyciad a’r gyfradd llog.
Mae perchnogion busnes yn aml yn mynd at y banciau i gael benthyciadau, ond nid banciau yw’r unig ddewis. Gall benthycwyr eraill fod yn fwy cystadleuol neu’n fwy addas ar gyfer eich busnes.
Mae prynu pethau gyda chardiau plastig yn ddewis cyfleus a hyblyg i nifer o fusnesau.
Cyllid cyfalaf menter yw math o fuddsoddiad ecwiti preifat lle mae busnes yn cael buddsoddiad tymor hir yn gyfnewid am gyfran o’i ecwiti.
Gallech fod yn dymuno gofyn i berthnasau a ffrindiau am gymorth pan fo angen cyllid busnes ychwanegol arnoch.
Mae cyllid tyrfa - neu gyfalaf a ddaw gan dyrfa - yn fath arall o fuddsoddiad angel busnes. Fe’i gwneir ar-lein fel arfer, ac mae’n caniatáu i nifer o fuddsoddwyr fuddsoddi yn unigol symiau llai o arian mewn busnes.
Mae Ffactoreiddio - a elwir hefyd yn ‘ffactoreiddio dyled’ - yn golygu gwerthu’ch anfonebau i gwmni ffactoreiddio. Yn gyfnewid am hyn byddan nhw’n prosesu’r anfonebau ac yn caniatáu i chi godi arian yn erbyn yr arian sy’n ddyledus i’ch busnes. Byddant hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros eich cyfriflyfr
Gorddrafft yw swm o arian a roddir i chi fel credyd gan eich banc, y rhoddwyd terfyn a drefnwyd ymlaen llaw arno pan fo balans eich cyfrif yn mynd o dan sero.
Grant yw swm o arian a roddir i unigolyn neu fusnes ar gyfer prosiect neu ddiben arbennig.
Mae’n bosibl y bydd ar eich busnes angen asedau (fel dodrefn, offer cyfrifiadurol neu gerbydau cwmni) neu offer cyfalaf, fel cyfarpar mawr neu beiriannau.