Mae prentisiaethau gradd yn rhan o nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y prentisiaethau lefel uchel, gan gynnwys rhai ar lefel gradd, fel y nodir yn ei datganiad polisi prentisiaethau. Maent wedi'u cyllido'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Gall cyflogwyr felly fod yn hyderus y bydd prentisiaethau gradd yn ddarostyngedig i'r un mesurau sicrhau ansawdd â darpariaeth addysg uwch arall, a'u bod yn cydymffurfio â Manyleb Safonau Prentisiaeth Cymru (SASW).
Ar hyn o bryd mae prentisiaethau gradd ar gael ar lefel 6, sy'n cyfateb i radd baglor israddedig llawn, yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:
Fe'u cynigir mewn partneriaeth â phrifysgolion yng Nghymru.
Mae'r model prentisiaethau yng Nghymru'n wahanol i'r model prentisiaethau yn Lloegr. Gall darparwyr addysg uwch yng Nghymru ddarparu prentisiaethau yn Lloegr os ydynt ar y Gofrestr Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaeth.