
Oes gennych chi syniad busnes gwych?
Mae ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhaglen 10 wythnos unigryw sydd wedi'i llunio i helpu entrepreneuriaid Cymru i lansio busnesau twf uchel, o sicrhau eu cwsmer cyntaf i ddenu buddsoddiad. Mae ein rhaglen yn cynnig cymorth wedi'i deilwra gan hyfforddwyr profiadol i helpu busnesau twf uchel i lwyddo.
Mae’r Rhaglen Cyflymu Busnes yn rhan o’r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) - gwasanaeth cymorth busnes twf uchel mwyaf blaenllaw Cymru ac rydym yn chwilio am geisiadau gan entrepreneuriaid yng Nghymru sydd â syniadau busnes cryf sy’n anelu at gyflawni trosiant o £1 miliwn erbyn 2029, creu 10 neu fwy o swyddi amser llawn ac allforio’n rhyngwladol.
Er mwyn osgoi siom, gwnewch gais yn gynnar gan y gallai galw uchel arwain at gau ceisiadau'n gynharach. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 25 Awst 2025.
Mae Busnes Cymru’n wasanaeth dwyieithog, ac mae ein holl ddigwyddiadau a gweithdai ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Medi 2025
Bydd Cyflymydd Busnesau Newydd Busnes Cymru yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Medi 2025 tan ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir.