Newyddion

Ennill hysbyseb deledu ar gyfer eich brand gyda Small Business, Big Break

Camera crew filming

Dyma'ch cyfle i fynd â'ch busnes i ystafelloedd byw cartrefi ledled y genedl a chael miliynau i weld eich brand!

Mae Constant Contact yn gwybod mai cael mwy o gwsmeriaid yw'r her fwyaf y mae busnesau bach yn ei hwynebu.

Dyna pam maen nhw - mewn cydweithrediad ag Enterprise Nation a Channel 4 - yn cynnig cyfle anhygoel i fusnesau bach roi hwb ddigynsail i welededd eu brand.

Bydd tri enillydd lwcus yn ennill:

  • cyfran o £300,000 o amser darlledu hysbysebion Channel 4
  • y cyfle i weithio gydag asiantaeth cynhyrchu fideo o'r radd flaenaf i greu eich hysbyseb ddelfrydol ar gyfer y teledu
  • y cyfle i ymgynghori â thîm llawn o arbenigwyr ar y ffordd orau o gyrraedd eich cynulleidfa darged ar draws gwasanaethau byw a gwasanaethau ffrydio Channel 4 i sicrhau bod eich busnes yn disgleirio ar y sgrin
  • pecyn unigryw o offer ac arbenigedd marchnata, i fynd â'ch marchnata i uchelfannau newydd 

Bydd deg busnes yn ennill pecyn marchnata unigryw, gwerth £4,000, i roi’r cyfle y maen nhw’n ei haeddu i’r busnesau. Mae hon yn wobr deilwng yn ei hawl ei hun, hyd yn oed i'r cwmnïau hynny nad ydynt yn teimlo'n barod ar gyfer ymgyrch deledu. 

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'ch busnes:

  • fod wedi bod yn masnachu am o leiaf dri mis
  • fod â rhif Tŷ'r Cwmnïau neu rif Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR)
  • fod yn cyflogi dim mwy na 50 aelod o staff
  • fod â chyfrif banc Prydeinig 

Gallwch wneud cais i'r gystadleuaeth Small Business, Big Break tan 15 Mai 2025.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Small Business Big Break | Get your business seen by millions

Mae Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth diduedd wedi’i ariannu’n llawn i bobl yng Nghymru sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnesau 

Beth bynnag fo’ch her busnes, mae’n debygol y gall ein harbenigedd a’n cymorth helaeth eich helpu. O gymorth gyda chyngor Adnoddau Dynol, cynllunio busnes, lleihau carbon a gwelliannau mewn cynhyrchiant hyd at helpu gyda chyllid, rydym yma i helpu: Gwasanaeth Busnes Cymru | Busnes Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.