Newyddion

Diwrnod Mentrau Cymdeithasol 2024

group of volunteers holding hands

Cynhelir Diwrnod Mentrau Cymdeithasol eleni ar 21 Tachwedd.

Mae'r diwrnod yn gyfle gwych i helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fentrau cymdeithasol yn ogystal â dathlu eich menter gymdeithasol a sut rydych chi'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Ymunwch â digwyddiad ar-lein rhwydwaith Busnes Cymdeithasol Cymru i ddathlu diwrnod menter gymdeithasol a chlywed gan enillwyr gwobrau diweddar am eu hatebion arloesol i helpu eu cymuned. Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 20 Tachwedd 2024; i archebu eich lle dewiswch y ddolen ganlynol: Rhwydwaith Busnes Cymdeithasol Cymru - dathlu mentrau cymdeithasol Tocynnau, Mer 20 Tach 2024 am 10:00 | Eventbrite

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu menter gymdeithasol neu os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Cwmpas neu edrychwch ar dudalennau Busnes Cymdeithasol Cymru ar wefan Busnes Cymru sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr am sefydlu a rhedeg menter gymdeithasol. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.