Newyddion

Deddf Data Defnydd a Mynediad 2025

Data protection and customer data

Nodyn atgoffa pwysig bod yn rhaid i fusnesau ledled y DU gael proses gwyno diogelu data ar waith, wrth i'r gofynion cyfreithiol newydd ddod i rym ar 19 Mehefin 2026.

Mae Deddf Data Defnydd a Mynediad 2025 (DUAA) yn Ddeddf Seneddol newydd sy'n diweddaru cyfreithiau penodol am faterion gwybodaeth ddigidol.  

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddelio â chwynion diogelu data i gefnogi busnesau i fodloni'r gofynion newydd hyn.

I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Pam fod Seiberddiogelwch yn Bwysig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.