Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Atodol Gyntaf, gan ddyrannu £294 miliwn ar draws ei blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r gyllideb heddiw yn cadarnhau cyllid newydd o £20 miliwn i roi hwb i'r cyflenwad o dai cymdeithasol, £40 miliwn i wella adeiladau ysgol a £5 miliwn ar gyfer cyfleusterau cymunedol y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt. Mae hefyd yn cynnwys £10 miliwn i sicrhau bod teithio ar fysiau a choetsys yn parhau'n fforddiadwy i bobl ifanc ac i gynyddu gwasanaethau, £2 miliwn ar gyfer y taliad plant Cynnal a £2 miliwn i roi cyfle i fwy o blant ddysgu nofio.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Ysgolion ac ysbytai ymhlith y rhai sy'n derbyn buddsoddiad o £294m fel rhan o flaenoriaethau'r Llywodraeth newydd | LLYW.CYMRU.