Newyddion

Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion 2023

Mae enwebiadau ar gyfer Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion 2023 wedi agor!

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau unigolion, prosiectau a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a phenderfyniad eithriadol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu.

Mae’r gwobrau’n amlygu effaith addysg oedolion a dysgu gydol oes, ac mae’n gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sydd yn newid bywydau.
Categorïau’r Gwobrau:

  • Sgiliau ar gyfer Gwaith
  • Dysgwr Ifanc sy’n Oedolyn
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – Dechreuwr Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol: Rhannu’r Dyfodol
  • Sgiliau Hanfodol am Oes
  • Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Gwobr Hywel Francis ar gyfer Effaith Gymunedol
  • Gwneuthurwyr Newid yn y Gweithle

Dyddiad cau: 17 Ebrill 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.