Yr Wythnos Werdd Fawr yw dathliad mwyaf y DU o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid hinsawdd a diogelu natur ac mae'n digwydd o’r 6 Mehefin i’r 14 Mehefin 2026.
Yn ystod yr wythnos, mae cymunedau, ysgolion, busnesau, eglwysi, mosgiau a mwy yn ymuno â’i gilydd i gefnogi gweithredu i amddiffyn y blaned. Dysgwch sut y gall eich busnes gymryd rhan.
Os ydych chi'n cynnal digwyddiad yn eich cymuned, cofiwch ei ychwanegu at y wefan. Bydd hyn yn helpu eraill yn eich ardal leol i ddod o hyd i chi a bydd yn eich helpu i fod yn rhan o ddathliad cenedlaethol o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid hinsawdd!
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Dysgwch fwy am Yr Wythnos Werdd Fawr - Yr Wythnos Werdd Fawr.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Cymryd rhan: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.