Blogiau

Yr offer AI i roi prawf arnyn nhw gan bob busnes sy’n tyfu yn 2026

Man looking at laptop

Gan Lee Woodman, Hyfforddwr Strategaeth Ddigidol RCT

Os ydych chi’n rhedeg busnes twf uchel, byddwch chi wedi clywed yr holl sôn am AI. Ond rhwng y swn a’r jargon, mae’n anodd gwybod ble i ddechrau.

Y newyddion da? Does dim angen bod gennych chi dîm data gwyddoniaeth na chyllideb chwe ffigwr i elwa o AI. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw canolbwyntio ar yr offer cywir sy’n datrys problemau go iawn yn eich busnes chi.

Mae tair rhaglen AI y dylai busnes sy’n tyfu, roi prawf arnyn nhw eleni, gyda chyngor ymarferol ar sut i ddechrau arni.

1. Awtomeiddio gwasanaeth cwsmeriaid: Ymateb yn gynt, tyfu’n gallach

Y broblem: Mae ymholiadau eich cwsmeriaid yn tyfu’n gynt nag y gall eich tîm chi ymdopi â nhw. Mae amseroedd ymateb yn llacio ac rydych chi’n treulio rhagor ar gymorth heb wella bodlonrwydd.

Yr ateb: Gall sgwrsfotiau wedi’u gyrru gan AI ymdopi â hyd at 50% o ymholiadau arferol ar unwaith, gan ryddhau eich tîm ar gyfer sgyrsiau gwerth uchel, cymhleth.

Offer i roi cynnig arnyn nhw:

  • Tidio – Hawdd i’w weithredu, yn ymdrin â Chwestiynau Cyffredin a datrys problemau sylfaenol
  • Intercom – Mwy soffistigedig, yn dysgu o ymatebion eich tîm
  • Zendesk AI – Yn gweithio gyda systemau desg gymorth sy’n bodoli eisoes

Buddion cyflym:

  • Awtomeiddio eich pum cwestiwn mwyaf cyffredin (statws cludiant, polisi dychwelyd, oriau agor, argaeledd cynhyrchion, ailosod cyfrineiriau)
  • Bwydo cwestiynau cyffredin sy’n bodoli eisoes ac erthyglau ynghylch sylfaen wybodaeth i’ch sgwrsfot
  • Ei osod i uwchgyfeirio at bobl pan fydd yn canfod rhwystredigaeth
  • Monitro sgyrsiau’n wythnosol ar gyfer y mis cyntaf a mireinio atebion

Gwiriad realiti: Disgwyliwch 2-3 mis o hyfforddiant a mireinio. Ond hyd yn oed gyda chywirdeb o 70%, fe welwch chi arbedion amser sylweddol.

2. Ymchwil i’r farchnad a gwybodaeth am gystadleuwyr: Gwybod beth y mae ei angen ar gwsmeriaid cyn iddyn nhw ddweud wrthych chi

Y broblem: Rydych chi’n gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar reddf neu ymchwil sydd wedi ei dyddio. Erbyn i chi gomisiynu arolwg, bydd y farchnad wedi symud ymlaen.

Yr ateb: Mae offer AI yn dadansoddi miloedd o adolygiadau cwsmeriaid, sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol a gweithgarwch cystadleuwyr mewn munudau, gan ddarganfod tueddiadau na fyddech chi byth yn sylwi arnyn nhw â llaw.

Offer i roi cynnig arnyn nhw:

  • ChatGPT Deep Research – Yn dadansoddi safleoedd cystadleuwyr, crynhoi adolygiadau cwsmeriaid, nodi bylchau yn y farchnad
  • Glimpse – Yn olrhain tueddiadau pynciau a chynhyrchion cyn iddyn nhw ymuno â’r brif ffrwd
  • Crayon – Yn monitro gwefannau, prisiau ac ymgyrchoedd marchnata cystadleuwyr yn awtomatig

Buddion cyflym:

  • Defnyddio ChatGPT i ddadansoddi 100+ o adolygiadau cystadleuwyr: “Beth yw’r 5 prif gŵyn sydd gan gwsmeriaid am [gynnyrch cystadleuydd]?”
  • Nodi bylchau cynnwys: “Pa gwestiynau y mae cwsmeriaid yn eu holi am [eich categori cynnyrch] sydd heb eu hateb?”
  • Gosod patrwm olrhain misol ar gyfer cystadleuwyr ynghylch newidiadau prisiau a lansiadau newydd
  • Dadansoddi eich trawsgrifiadau gwasanaeth cwsmeriaid i nodi achosion poendod sy’n codi dro ar ôl tro
  • Rhoi prawf ar negeseuon trwy ofyn i AI chwarae rôl gwahanol segmentau cwsmeriaid

Gwiriad realiti: Ni fydd AI yn disodli sgyrsiau dwfn â chwsmeriaid, ond gall nodi patrymau’n gynt ac yn rhatach nag ymchwil draddodiadol. Defnyddiwch e i greu damcaniaethau, ac wedyn ei ddilysu gyda chwsmeriaid go iawn.

3. Rhagfynegi ariannol a rheoli llifoedd arian: Cynlluniwch yn hyderus, nodwch broblemau yn gynnar

Y broblem: Mae eich taenlenni’n gymhleth, dyfalu yw eich rhagfynegiadau a dydych chi ddim yn nodi problemau llifoedd arian nes iddynt fynd yn ddifrifol.

Yr ateb: Mae offer ariannol wedi eu pweru gan AI yn dadansoddi eich data hanesyddol, yn nodi patrymau ac yn rhagfynegi perfformiad yn y dyfodol. Gallan nhw dynnu sylw at wasgfeydd llifoedd arian wythnosau cyn iddyn nhw daro.

Offer i roi cynnig arnyn nhw:

  • Futrli – Yn cysylltu â Xero/QuickBooks, yn creu rhagfynediadau gweledol, yn rhedeg gwaith cynllunio senario
  • Fluidly – yn rhagfynegi llif arian amser go iawn gyda rhybuddion am broblemau
  • Causal – Yn adeiladu modelau ariannol heb fformwlâu cymhleth

Buddion cyflym:

  • Cysylltwch eich meddalwedd gyfrifo a gadewch i AI sefydlu patrymau gwaelodlin
  • Rhedeg senarios: “Beth fydd yn digwydd i’r llif arian os byddwn ni’n cyflogi dau berson yn C2?”
  • Sefydlu rhybuddion ar gyfer tir glanio arian isel (rhoi gwybod pan fydd 60 o ddiwrnodau ar ôl cyn cyrraedd yr isafswm balans)
  • Nodi eich cynhyrchion, cwsmeriaid neu sianeli mwyaf proffidiol
  • Rhagfynegi effaith newidiadau prisiau cyn i chi ymrwymo

Prawf realiti: Mae rhagfynegi AI yn gweithio’n well gydag o leiaf 12 mis o ddata ariannol glân. Tebygrwydd a gawn ni mewn rhagfynegiadau, nid sicrwydd. Defnyddiwch nhw i lywio penderfyniadau, nid i ddisodli barn.

Dechrau arni: Cynllun profi AI 30 diwrnod

  • Wythnos 1: Dewiswch un maes problemus a dewiswch un offeryn i roi prawf arno. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig treialon rhad ac am ddim.
  • Wythnos 2: Gosodwch yr offeryn a bwydwch eich data presennol iddo. Peidiwch ag anelu at berffeithrwydd.
  • Wythnos 3: Defnyddiwch e bob dydd. Monitrwch ganlyniadau, mireiniwch osodiadau, ac olrhain yr amser a arbedwyd.
  • Wythnos 4: Mesur yr effaith. Ydy e’n arbed amser? Gwella penderfyniadau? Os ydy, cadwch e. Os nac ydy, rhowch gynnig ar rywbeth arall.

Tair rheol ar gyfer mabwysiadu AI sy’n gweithio

  • Dechreuwch yn fach, tyfwch beth sy’n gweithio. Dewiswn un broses boenus a datryswch nhw.
  • Canolbwyntiwch ar adenillion o fuddsoddi, nid newydd-deb. Dewiswch offer sy’n datrys problemau go iawn, nid rhai sydd ond yn swnio’n fawr.
  • Cadwch bobl yn y cylch. Mae AI yn ychwanegu at eich tîm; dyw e ddim yn disodli barn, creadigrwydd, na pherthnasoedd â chwsmeriaid.

Nid y busnesau sydd â’r dechnoleg fwyaf trawiadol fydd ar eu hennill oherwydd AI. Yr enillwyr fydd y rhai fydd yn ei ddefnyddio i weithio’n gallach, symud yn gynt a gwasanaethu cwsmeriaid yn well.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.