Newyddion

Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn sicrhau newidiadau pwysig gan Google i fynd i'r afael ag adolygiadau ffug

Five Star Rating

Fel rhan o waith yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i fynd i'r afael ag adolygiadau ffug mae Google wedi cytuno i wneud newidiadau sylweddol i'w brosesau - sy'n golygu y gall pobl ymddiried yn fwy yn yr adolygiadau maen nhw'n eu gweld.

Mae'r ymrwymiadau a lofnodwyd gan Google yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmni gosbi busnesau yn y DU sydd wedi rhoi hwb i'w sgoriau sêr gydag adolygiadau ffug - yn ogystal â chosbi pobl sydd wedi ysgrifennu adolygiadau ffug ar gyfer busnesau'r DU.

Mae Google wedi ymrwymo i roi rhybuddion ar broffiliau busnesau yn y DU sy'n defnyddio adolygiadau ffug i roi hwb i'w sgoriau sêr.

Mae Google hefyd wedi cytuno i orfodi sancsiynau i atal busnesau sy'n ceisio elwa o adolygiadau ffug a chosbi'r rhai sy'n ysgrifennu adolygiadau ffug neu gamarweiniol.

Mae'r CMA wedi creu canllawiau drafft i helpu busnesau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chyfraith defnyddwyr.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: CMA secures important changes from Google to tackle fake reviews - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.