Mae gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi symud heddiw i lwyfan GOV.UK.
Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys o’u hen wefan bellach wedi’i symud i’n gwefan newydd. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr a busnesau barhau i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, gan gynnwys canllawiau hanfodol ar ddiogelwch bwyd.
Nid yw gwefan flaenorol yr ASB, www.food.gov.uk, ar waith mwyach, ond bydd unrhyw ddefnyddwyr sy’n ceisio ymweld â’r hen wefan yn cael eu hailgyfeirio’n awtomatig i’n hafan ar GOV.UK.