Newyddion

Yn cyflogi gweithwyr dros dro dros y Nadolig? Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu'ch gweithwyr yn gywir

person working in shop selling Christmas goods

Yn 2024 i 2025, nododd CThEF ôl-ddyledion cyflog o £5.8 miliwn yn ddyledus i 25,200 o weithwyr yn y DU a chyhoeddodd tua 750 o gosbau gwerth cyfanswm o £4.2 miliwn i gyflogwyr nad oeddent yn cydymffurfio.

Mae gan staff tymhorol dros dro hawl gyfreithiol i dderbyn o leiaf yr un isafswm cyfraddau cyflog â gweithwyr eraill.

Ar hyn o bryd cyfraddau awr yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw:

  • £12.21 - 21 oed a hŷn (Cyflog Byw Cenedlaethol)
  • £10.00 - 18 i 20 oed
  • £7.55 - O dan 18 oed
  • £7.55 - Prentis (o dan 19 oed / 19 oed neu'n hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth)

Mae gwybodaeth a chymorth ar gael i gyflogwyr er mwyn sicrhau eu bod yn talu eu gweithwyr yn gywir:

Dylech hefyd annog eich gweithwyr i wirio’u cyflog: Working over Christmas? ‘Check Your Pay’ - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.