Newyddion

Yn barod i arloesi, tyfu ac ennill mwy o waith yng Nghymru?

Infinity symbol - circular economy

Mae rhaglen Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC)yn rhoi'r offer, y gefnogaeth a'r rhwydwaith i chi i ymgorffori egwyddorion yr Economi Gylchol, datgloi twf glân, a chyd-fynd ag uchelgeisiau Net Sero Cymru.

Ymunwch â'r rhaglen Kickstart, ar gyfer Gweithdy Cynllunio Lleihau Carbon 1.5 diwrnod, a gyflwynir gan dîm CEIC yn Tŷ Bryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr CF32 8UU ar: 

  • 7 Ionawr 2026, 9:30am i 4pm a
  • 21 Ionawr 2026, 9:30am i 1.30pm

Beth gewch chi:

  • Cyflwyniad i Dwf Glân ac Economi Gylchol 
    Deall allyriadau carbon
  • Datblygu cynllun lleihau carbon a chynllun gweithredu
  • Syniadau ymarferol i weithredu strategaethau cylchol
  • Cyfleoedd Rhwydweithio gyda busnesau lleol
  • Bathodyn Digidol Arloesi Economi Gylchol gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd

Dewiswch y llwybr cywir i chi:

  • Opsiwn 1: wedi'i ariannu'n llawn: Efallai y bydd sefydliadau cymwys sydd wedi'u lleoli yng Nghaerffili yn gallu cael mynediad at y rhaglen heb unrhyw gost, diolch i gefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU
  • Opsiwn 2: 50% wedi'i ariannu: Gall sefydliadau y tu allan i'r ardaloedd a ariennir yn llawn — ond sy'n dal i weithredu yng Nghymru — fod yn gymwys i gael 50% o gyllid i gefnogi cyfranogiad yn y rhaglen lawn. (Eich cost £149.50)
  • Opsiwn 3: hunan-ariannu: Mae'r rhaglen hefyd ar agor i unigolion a sefydliadau sy'n dymuno ariannu eu hunain. Yn ddelfrydol ar gyfer busnesau a sefydliadau sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth. (Ffi'r cwrs £299)

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb: Our programme - Circular Economy Innovation Communities.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.